Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 2 2020

7 Gorffennaf 2020

Cell analysis and imaging
Sytometr llif delweddu.

Ymweld â’n cyfleuster ar ôl y cyfnod clo

Mae ein cyfleuster wedi bod ar agor drwy gydol y cyfnod clo er mwyn ategu gwaith hanfodol gan Brifysgol Caerdydd a busnesau allanol.

Bellach, gall ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd gael gafael at ein cyfleuster ymchwil os yw eu prosiectau ymchwil wedi’u cymeradwyo. Rydym yn gofyn i’r holl ymchwilwyr o’r fath gysylltu ag un o’n technolegwyr CBS cyn dechrau gwaith yn ein cyfleuster. Diolch yn fawr. Bydd hyn yn ein galluogi i’ch cyflwyno i’r mesurau sydd gennym ar waith i gadw pawb yn ddiogel. O hyd, mae’n bwysig eich bod yn trefnu eich defnydd o’r holl gyfarpar CBS cyn ei ddefnyddio. Edrychwn ymlaen at eich croesawu'n ôl!

Rydym yn annog busnesau allanol i barhau i gysylltu â ni am ein gwasanaethau. Rydym ni yma i'ch helpu chi.

Diolch am eich cefnogaeth. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Adnoddau hyfforddiant technegol ar gael

Diolch i’r llu ohonoch sydd wedi cymryd rhan yn ein gweminarau technegol yn ystod y cyfnod clo. Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o gyfranogiad actif yn y rhain gan Brifysgol Caerdydd a thu hwnt. Gobeithiwn eich bod wedi’u gweld nhw’n ddefnyddiol wrth i lawer ohonom ymaddasu i weithio gartref.

Rydym wedi cynnal gweminarau technegol sy’n cwmpasu ystod eang o’n technolegau, gan gynnwys technolegau cytometreg llif delweddu ImageStream®, meddalwedd FlowJo® a Meso Scale Discovery®. Mae InCytometry hefyd wedi gwneud ystod o fideos byr ar bynciau sy’n cynnwys gatio, troshaenau ac iawndaliadau.

Cysylltwch â ni os hoffech chi ddal i fyny gydag unrhyw weminarau rydych wedi’u colli, a pharhewch i gysylltu â ni os ydych am drafod ymgorffori’r technolegau hyn yn eich ymchwil.

Ffyrdd newydd o weithio


Yn ystod y cyfnod clo, rydym wedi parhau i annog ein cyfleuster a Phrifysgol Caerdydd, i gydweithio a dysgu cymaint â phosibl gartref. O gynhadledd rithwir y Gymdeithas Ewropeaidd o Eneteg Ddynol (ESHG) i ddigwyddiadau cydweithio a drefnir gan Core Technologies Life Sciences (CTLS) a’r Gymdeithas Ficrosgop Frenhinol (RMS) i ddigwyddiadau rhwydweithio lleol a drefnir gan MediWales a Phrifysgol Abertawe, rydym wedi mwynhau gweld pa mor frwdfrydig y mae ffyrdd newydd o weithio wedi’u mabwysiadu. Mae cydweithio a rhannu gwybodaeth wedi bod yn allweddol wrth i ni ddysgu sut i fynd yn ein blaenau ar ôl y cyfnod clo, ac mae’n fendigedig dysgu sut mae ymchwil a gweithgynhyrchu wedi’u hailgyfeirio’n llwyddiannus at ddiben newydd, sef mynd i’r afael â phandemig Covid-19.

Wrth i ni ddechrau symud allan o’r cyfnod clo yn unol â pholisi Prifysgol Caerdydd a dechrau croesawu mwy ohonoch chi i’n cyfleuster, rydym yn awyddus o hyd i barhau i roi cyngor gwyddonol a thechnegol a thrafod eich cynlluniau am ymchwil yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.