Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 4 2020

14 Rhagfyr 2020

Q4 2020 image

Pwyso a mesur 2020

Er gwaethaf anawsterau niferus 2020, rydyn ni wedi bod ar agor drwy gydol y flwyddyn ac yn falch o gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ymateb i COVID-19. At hynny, mae’n dda gyda ni ein bod wedi parhau i ehangu’r ystod o ymchwilwyr rydyn ni’n eu helpu eleni - ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymhlith amryw gwmnïau pwysig maes iechyd fel ei gilydd. Rydyn ni’n parhau i annog cwmnïau allanol ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gysylltu â ni cbsadmin@cardiff.ac.uk am ein gwasanaethau a’n cynghorion ynghylch rheoli ansawdd.

Ansawdd

O ganlyniad i’n harchwiliad allanol blynyddol yn ôl ISO 9001: 2015 eleni, mae’n dda gyda ni ddweud ein bod wedi’n hachredu eto. Ni yw’r unig gyfleuster amlgraidd yn y deyrnas i ennill achrediad o’r fath. Ategir ein harchwiliad ISO 9001: 2015 gan ein hachrediad GCLP.

Cyfleuster diogel rhag COVID-19

Ers dechrau'r pandemig, rydyn ni wedi bod yn croesawu ymchwilwyr yn ôl i'n cyfleuster diogel rhag COVID-19 yn unol â dull graddol Prifysgol Caerdydd. Diolch i bawb am eich cydweithrediad ynglŷn â'r drefn newydd.

Hyfforddiant

Diolch i'r nifer fawr ohonoch o Brifysgol Caerdydd a’r tu hwnt sydd wedi mynychu ein gweminarau technegol a'n gweithdai yn 2020. Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan yn ein hystod eang o ddigwyddiadau rhithwir megis cyrsiau theori Cytometreg Llif, ein gweithdy Mynegiant Genynnau a’n gweminarau technegol (ImageStream®, Meso Scale Discovery®, PrimeFlow RNA, Bionano Genomeg a rhagor). Mae croeso ichi gysylltu â ni am unrhyw weminarau rydych chi wedi’u colli.

Cydweithio

Rydyn ni wedi parhau i hyrwyddo ein cyfleuster a Phrifysgol Caerdydd ac i ddysgu a chydweithio gymaint ag y gallwn ni drwy gydol 2020. Rydyn ni wedi bod mewn rhith-gynadleddau, digwyddiadau cydweithio Core Technologies for Life Sciences (CTLS), One Nucleus a'r Royal Microscopical Society (RMS) a digwyddiadau rhwydweithio lleol MediWales, Prifysgol Abertawe a Chanolfan Gwyddorau Bywyd Cymru. Rydyn ni wedi mwynhau gweld pa mor frwd a chreadigol mae ffyrdd newydd o weithio wedi’u cofleidio, mae Gwobrau Arloesi MediWales yn ddiweddar yn enghraifft wych!

Ac edrych ymlaen at 2021

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â chi yn 2021 a pharhau i groesawu ymchwilwyr i'n cyfleuster diogel rhag COVID-19. Cofiwch ddod i siarad gyda'n tîm o arbenigwyr gwyddonol i gael cyngor ar bynciau gan gynnwys dylunio arbrofol, manteisio ar atgynyrchioldeb arbrofol, paratoi sampl a dadansoddi data, rydym yma i'ch helpu chi! Byddwn ni’n cyhoeddi manylion digwyddiadau i ddod ar ein gwefan a thrwy Twitter, a bydd llawer ohonyn nhw ar gael i ymchwilwyr mewnol ac allanol fel ei gilydd, megis yr un isod.

Cyseiniant Plasmon Arwyneb gan ddefnyddio technoleg BiacoreTM

Bydd sumposiwm am y dechneg bwerus hon i chi yn 2021. Mae Cyseiniant Arwyneb (SPR) yn systemau BiacoreTM, megis ein BiacoreTM T200, yn cael ei ddefnyddio gan amlaf i fonitro digwyddiadau rhwymol rhwng proteinau. Mae hynny’n ein helpu i ddeall yn fanwl sut maen nhw’n rhyngweithio gan gynnwys pa mor gryf, cyflym a phenodol ydyn nhw. Mae ystod enfawr o bosibiliadau o ran ei ddefnyddio megis astudio cyfansoddion organig, rhyngweithiadau asid niwclëig, firysau a chelloedd cyfan, hyd yn oed. Rhagor o wybodaeth am yr dechneg hon.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.