Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 1 2021

24 Mawrth 2021

Biacore

Ardystiad IS0 9001:2015

Drwy gwblhau archwiliad gwyliadwriaeth blynyddol ein cyfleuster yn llwyddiannus ym mis Mawrth 2021, rydym wedi cadw ein hardystiad ISO 9001. Mae hyn yn golygu bod ein system rheoli ansawdd yn parhau i ddangos ei gallu i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid a rheoliadau’n gyson. Ni yw’r unig Gyfleuster Aml-graidd yn y DU sydd â’r achrediad hwn, sy’n cefnogi cwsmeriaid ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt iddi. Efallai eich bod yn gydweithiwr o Brifysgol Caerdydd sy’n ceisio cyngor ynghylch cydymffurfio â’r safon hon? Neu efallai eich bod yn fusnes sy’n ymddiddori mewn gwaith contract y gallwn ei wneud i chi yn unol â’r safon hon? Mae croeso i chi gysylltu â ni cbsadmin@cardiff.ac.uk i gael mwy o wybodaeth.

Rydym ar agor!

Sylwch ein bod ar agor i holl ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd sydd â chaniatâd i weithio ar y campws. Yr unig fesur ychwanegol sydd ei angen ymlaen llaw yw i chi gysylltu ag un o dîm y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog (CBS) i gael gwybod am arferion gweithio diogel CBS o ran COVID-19 ac i roi tawelwch meddwl i chi. Mae'r mesurau hyn yn debyg iawn i'r rhai sy'n cael eu defnyddio ym mhob labordy ar draws yr Ysgol Meddygaeth. Ewch i’n gwefan i gael manylion cyswllt neu cysylltwch ag Ian Brewis brewisia@cardiff.ac.uk. Mae Ian hefyd yn fwy na pharod i gynghori ar y cysylltiadau gorau ar gyfer cael mynediad at gyfleusterau eraill yn yr Ysgol a Choleg os ydych yn ansicr.

Rydym hefyd yn agored i fusnes ar gyfer gwaith allanol lle caniateir y gwaith hwn o fewn canllawiau COVID-19. Rydym yn annog busnesau allanol i barhau i gysylltu â ni cbsadmin@cardiff.ac.uk am ein gwasanaethau.

Symposiwm SPR Biacore 2021

Gofrestru am Symposiwm rhithwir hanner diwrnod SPR Biacore ar 20 Ebrill 2021 (13:30-16:30). Dysgwch sut gall Biacore SPR (Surface Plasmon Resonance) weithio i'ch ymchwil a sut i ddylunio eich profion SPR eich hun i fynd drwy Biacore T200 yma yn CBS.

Heb fod angen labeli, mae profion Biacore yn rhoi gwybodaeth am gydnawsedd, cineteg a phenodoldeb rhyngweithiadau moleciwlaidd.

Bydd y symposiwm yn agored i bobl o'r tu mewn a'r tu allan i Brifysgol Caerdydd a bydd yn addas ar gyfer dechreuwyr a defnyddwyr profiadol. Bydd yn cynnwys cyflwyniadau gan Cytiva i gyflwyno'r dechnoleg ac ymarferoldeb, a sgyrsiau gan ddefnyddwyr Biacore i ddangos ehangder y ceisiadau y gellir defnyddio'r dechnoleg hon ar eu cyfer. 
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ymuno â ni.

Cytometreg llif dimensiwn uchel

Rydym wrth ein boddau bod ein Dadansoddwr Celloedd A3 BD FACSymphony™ newydd wedi cyrraedd. Gallwn ddyfynbrisio ar gyfer ceisiadau am gyllid drwy ddefnyddio'r offeryn hwn nawr, a rhagweld gwasanaethau â chynnig wedi’i reoli o fis Mai 2021, gyda mynediad i ddefnyddwyr llif profiadol yn fuan ar ôl hyn. Ariannwyd yr offeryn hwn drwy RIF (Cronfa Seilwaith Ymchwil).
Bydd y cytomedr llif uchel hwn yn rhoi mynediad i ymchwilwyr at dechneg ddadansoddol newydd bwerus iawn sy'n eu galluogi i nodi a dadansoddi ffenoteipiau nodedig mewn poblogaethau heterogenaidd o gelloedd ac yn caniatáu i’r maint mwyaf posibl o ddata ddeillio o samplau sy'n cynnwys nifer cyfyngedig iawn o gelloedd yn unig. Bydd gan ein hofferyn newydd ffurfweddiad 5 laser (gan gynnwys laser UV) a'r gallu i fesur 30 paramedr gyda gallu plât 96/384. Ragor o wybodaeth dechnegol. Chysylltwch â ni cbsadmin@cardiff.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.