Ewch i’r prif gynnwys

Seren TikTok i ymddangos yn Eisteddfod T

28 Mai 2021

Bydd seren TikTok o Gymru, Ellis Lloyd Jones, y mae ei fideos ar y platfform wedi’u gwylio dros 31 miliwn o weithiau, yn ymddangos yn Eisteddfod T eleni ac yn sôn am fywyd Cymraeg Prifysgol Caerdydd.

Mae Ellis yn rhan o drafodaeth banel gyda Phrifysgol Caerdydd sy’n cynnwys myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, gan gynnwys un o asgellwyr Clwb Rygbi Pont-y-Pŵl, Lloyd Lewis, sydd hefyd yn chwarae i Dîm Saith Bob Ochr Cymru.

Bydd Hannah Beetham, myfyrwraig feddygol yn ei phedwaredd flwyddyn, yn sôn am ei chwrs a’r cynllun Doctoriaid Yfory blaenllaw ar y panel, a fydd yn cael ei gadeirio gan Swyddog y Gymraeg newydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Annell Dyfri.

Mae Ellis, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn, wedi dod yn seren ar TikTok yn ystod y pandemig drwy ddefnyddio’r platfform i ddathlu popeth am Gymru a chyflwyno pobl i’r Gymraeg. O ganlyniad i’w lwyddiant ar y platfform, mae wedi ymddangos mewn cyfres deledu ar BBC Three sy’n dogfennu ei daith at enwogrwydd, yn ogystal â helpu Llywodraeth Cymru i ledaenu negeseuon diogelwch drwy gydol y pandemig.

Ac yntau’n un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gwnaeth Lloyd ei ffordd drwy Academi’r Dreigiau cyn ymuno â Chlwb Rygbi Pont-y-pŵl yn ddiweddar. Ar wahân i rygbi, mae’n cyfansoddi cerddoriaeth ac yn addysgu. Yn fwy diweddar, mae wedi troi ei law at fyd y teledu, lle mae wedi ymddangos mewn sawl sioe yn y Gymraeg ar S4C. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gydag ITV Cymru Wales fel un o newyddiadurwyr dan hyfforddiant S4C, ac mae'n un o brif gyflwynwyr ‘Dim Sbin’ ar y platfform cymdeithasol Hansh.

Gwnaeth Hannah Beetham, sydd wedi cwblhau cwrs BSc mewn Meddygaeth Boblogaeth yn ddiweddar, ymuno â’r cynllun Doctoriaid Yfory cyn dechrau ei hastudiaethau. Cynlluniwyd y cynllun i helpu darpar fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i'w cais drwy gael eu mentora gan ddoctoriaid a myfyrwyr meddygol sy'n siarad Cymraeg. Mae ei hastudiaethau a'r cynllun wedi rhoi llawer iawn o brofiad iddi o weithio fel doctor yn y GIG yng Nghymru.

Yn rhan o ddigwyddiad ‘Bywyd Caerdydd, bywyd Cymraeg’ Prifysgol Caerdydd, bydd y rhai ar y panel yn trafod sut mae eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y Brifysgol wedi datblygu. Byddant hefyd yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n bresennol sut y gall yr iaith wella bywyd yn y brifysgol ac agor y drws i amrywiaeth eang o gyfleoedd.

Mae'r drafodaeth banel yn un ffordd yn unig y mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi Eisteddfod T 2021 yn rhan o’i hymrwymiad parhaus i hyrwyddo a dathlu iaith a diwylliant Cymru.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn falch o noddi ap Eisteddfod T eleni, yn ogystal â’r Seremoni Ysgrifennu Rhyddiaith arbennig, lle bydd tlws yn cael ei gyflwyno i awdur y rhyddiaith greadigol orau.

Cystadlodd dros 60 o unigolion ar gyfer y wobr arbennig hon y llynedd i nodi diwedd Eisteddfod T yn 2020.

Meddai Dr Huw Williams, Deon y Gymraeg Prifysgol Caerdydd: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ein digwyddiad arddangos eleni, y mae angen i unrhyw un sy’n ystyried astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ddod iddo.

“Mae gennym grŵp gwych o fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr sydd â’u stori unigryw eu hunain i’w hadrodd, yn arbennig o ran eu profiadau o ddefnyddio’r Gymraeg, ac rwy’n siŵr y bydd y drafodaeth yn ddiddorol iawn. Gobeithio y bydd yn ysbrydoli eraill, hefyd.

“Rydym yn falch o fod yn brifysgol Gymreig, a bydd y digwyddiad hwn yn un o sawl nodwedd a fydd yn cael ei rhyddhau yn ystod wythnos yr Eisteddfod sy’n rhoi sylw i fywyd Cymraeg Prifysgol Caerdydd a chynnig y Brifysgol i fyfyrwyr, ‘Cynnig Caerdydd’, gan fod y sefydliad yn cofleidio strategaeth newydd a hollgynhwysol ar gyfer y Gymraeg.”

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd am ei chefnogaeth barhaus. Mae hyn yn ein galluogi i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc.”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2021, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 31 Mai a 4 Mehefin, yn cael ei chynnal fel ‘Eisteddfod T’ unwaith eto. Bydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc a'u teuluoedd gystadlu a mwynhau Eisteddfod yr Urdd ar-lein, a bydd gweithgareddau ychwanegol yn cael eu cynnal ar yr ap a noddir gan Brifysgol Caerdydd. Bydd yn cael ei darlledu ar S4C a BBC Radio Cymru.

Y llynedd, gwnaeth dros 6,000 o blant a phobl ifanc, a’u teuluoedd, gymryd rhan yn Eisteddfod T. Hyd yma eleni, mae mwy na 12,000 o geisiadau fideo wedi’u cyflwyno ar gyfer y digwyddiad.

Bydd digwyddiad arddangos ‘Bywyd Caerdydd, bywyd Cymraeg’ Prifysgol Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 4 Mehefin rhwng 14:00 a 14:45. I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.

Rhannu’r stori hon