Ewch i’r prif gynnwys

Lansio MSc newydd sy'n canolbwyntio ar Imiwnoleg

27 Mai 2021

Immunology

Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi lansio cwrs ôl-raddedig arloesol newydd â'r nod o gynyddu nifer y biotechnegwyr a gweithwyr biofeddygol medrus yn y DU.

Mae'r cwrs MSc Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer mynediad ym mis Medi 2021. Caiff ei addysgu gan arbenigwyr rhyngwladol sy'n gysylltiedig â'r Isadran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau'r Brifysgol.

Ni fu imiwnoleg erioed yn fwy amserol, ac mae llawer o raddedigion sy'n dymuno datblygu gyrfa mewn ymchwil imiwnolegol, biotechnoleg a biofeddygaeth yn synhwyro ystyr newydd i'r 'ras arfau' rhwng gwesteiwr a phathogen. Datblygwyd y rhaglen newydd gydag arbenigwyr yn y sector biotechnoleg a gwyddorau biofeddygol, er mwyn sicrhau bod yr MSc llawn-amser dros flwyddyn yn parhau i fodloni gofynion newidiol marchnad swyddi'r dyfodol.

Mae Pennaeth yr Ysgol Meddygaeth yr Athro Steve Riley yn croesawu'r cwrs newydd. “Mae imiwnoleg ar flaen y gad o ran datblygiad gwyddoniaeth, a bydd ein dealltwriaeth o’r rhyngweithiadau imiwnolegol o fewn systemau’r corff yn parhau i sicrhau gwelliannau mewn gofal cleifion,” esboniodd. “Gyda sgyrsiau cynyddol ynghylch personoli triniaeth i gleifion bydd y cwrs hwn yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer deall ffyrdd y gellir cymhwyso ein dealltwriaeth o imiwnoleg i ddarparu gofal iechyd.”

Bydd graddedigion y cwrs yn dysgu amrywiaeth o dechnegau ymchwil gwahanol, yn cynnwys hyfforddiant mewn dulliau 'omeg' gwahanol mewn modiwl ar Imiwnoleg Gyfrifiadurol; a dysgu am effaith aml-forbidrwydd ar y berthynas gymhleth rhwng imiwnoleg a meddygaeth.

Dywedodd yr Athro Anwen Williams, cyfarwyddwr y rhaglen, “Rwyf wrth fy modd yn arwain addysgu arloesol, dan arweiniad ymchwil ar y rhaglen MSc hon. Arbenigwyr ymchwil rhyngwladol o'r Isadran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau'r Brifysgol sydd wedi cynllunio'r rhaglen a nhw hefyd fydd yn ei chyflwyno, felly mae'r addysgu a'r dysgu'n asio’n berffaith gyda'u diddordebau. Drwy gydweithio gyda diwydiant i greu a chyflwyno cynnwys perthnasol, mae'r MSc yn cadw’n gyfredol gydag anghenion newidiol cyflogwyr. Mae'n torri patrwm y model traddodiadol o addysgu imiwnoleg. Rhaglen hyfforddi yw'r MSc hwn fydd yn cyflenwi ffrwd o fyfyrwyr ôl-raddedig wedi'u hyfforddi'n briodol i ymgeisio am raddau ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth, ac yn wir yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd."

Gyda nifer cynyddol o gwmnïau gwyddorau bywyd a biofeddygol yn dewis lleoli eu hunain yng Nghymru, bydd y cwrs yn dysgu sgiliau fydd yn galluogi graddedigion o ddisgyblaethau fel Biowyddorau, Ffarmacoleg Feddygol, Meddygaeth a Gofal Iechyd i gychwyn ar yrfa yn y sector. Erbyn diwedd y cwrs, sy'n cynnwys traethawd hir terfynol, bydd graddedigion yn deall pwysigrwydd ymchwil o ran gwella gwybodaeth wyddonol (e.e. er mwyn cynghori ar arferion gorau wrth gynllunio ar gyfer pandemig), a datblygu brechlynnau a thriniaethau sy’n achub bywydau.

Dywedodd Dr David Cole, Partner Diwydiant yn Immunocore, “Mae Immunocore yn falch iawn i gyfrannu at y cwrs newydd cyffrous hwn. Edrychwn ymlaen at y cyfleoedd i'n staff gyfrannu at addysgu a datblygu o fewn y cwrs, yn ogystal â'r cyfle i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr gyda'r sgiliau a'r wybodaeth fydd yn eu gwneud yn ddarpar recriwtiaid hynod o ddeniadol yn y sector biotechnoleg a thu hwnt." Dywedodd Cyfarwyddwr Ôl-raddedigion a Addysgir yr Ysgol Meddygaeth yr Athro Ann Taylor, "Mae'n gyffrous iawn gallu cynnig y rhaglen MSc arloesol hon, a chefnogi a meithrin biotechnegwyr a gweithwyr biofeddygol medrus y dyfodol. Mae'r rhaglen yn cyfuno'r rhagoriaeth ymchwil ac

addysgol sydd gennym yn y Sefydliad Haint ac Imiwnoleg byd-enwog ac yn y Ganolfan Addysg Feddygol, un o'r darparwyr addysgol Ôl-raddedig a Addysgir mwyaf yn y DU ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr cysylltiedig ag iechyd."

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â'r Athro Williams.

Yr Athro Anwen Williams

Yr Athro Anwen Williams

Reader

Email
williamsas@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2074 4733

Rhannu’r stori hon