Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Brifysgol Caerdydd yn derbyn yr anrhydedd uchaf

19 Mai 2021

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn gwobr fawreddog i gydnabod ei ymchwil ar lunio polisïau gwledig ac amgylcheddol.

Enillodd yr Athro Terry Marsden o'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (PLACE) y Back Award, gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad y Daearyddwyr Prydeinig) am ei gyfraniad rhagorol at ddatblygiad cynllunio gwledig cenedlaethol a rhyngwladol a datblygu polisïau cyhoeddus.

Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, mae’r Athro Marsden wedi cyhoeddi llawer gan cynnwys gwaith sy’n amrywio’n eang am ailstrwythuro amaethyddiaeth yn gymeithasol-economaidd; damcaniaethu ac ymchwilio empirig i ddatblygu trefol; dadansoddi cadwyni a rhwydweithiau bwyd amaethyddol; a sylwebaeth feirniadol ym meysydd cymdeithaseg amgylcheddol a chynllunio amaethyddol sy’n dod fwyfwy i’r amlwg. Mae'r gwaith wedi ymestyn o'r DU i Ewrop, Brasil, y Caribî a nawr Tsieina.

Yn ôl yr Athro Marsden: “ Wrth i’r byd ddod yn fwy trefol, ac wrth i ni wynebu cynnydd mewn disbyddu adnoddau a bioamrywiaeth, yn ogystal â newid yn yr hinsawdd, ni fu'r pwysau i amddiffyn ac adfer 'natur' yn deg, erioed yn fwy. Y cwestiwn mawr yw sut i wneud hyn; ac felly mae hyn yn cynnwys cyd-gynhyrchu ein hymchwil gyda llunwyr polisïau ac amrywiaeth o randdeiliaid ar sail lleoedd. Wrth wneud hynny mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda chydweithwyr gwych ar draws Prifysgol Caerdydd, PLACE a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio i fynd i'r afael â'r materion hyn.

“Braint ac anrhydedd yw cael y wobr bwysig hon. Yn ystod fy ngyrfa, mae'r meysydd hyn wedi dod yn fwy hanfodol o ran cynaliadwyedd a pholisi ac edrychaf ymlaen at barhau i gyfrannu at y meysydd hyn gyda'r ardystiad y mae'r wobr hon yn ei gynnig.”

Eleni mae medalau a gwobrau'r Gymdeithas yn cydnabod 23 o bobl neu sefydliadau gwahanol am eu cyfraniadau rhagorol at ddaearyddiaeth.

Rhannu’r stori hon