Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen a ysgogwyd gan fyfyrwyr yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i elusennau

17 Mai 2021

People interacting via Zoom
The DataAid team, leading the event via Zoom.

Mae myfyrwyr PhD o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad oedd yn rhan o fenter ehangach DataAid, lle buon nhw’n darparu manteision allweddol i gwmnïau nid-er-elw.

Rhaglen yw DataAid sy’n cysylltu myfyrwyr PhD â phartneriaid elusennol, gan gyflwyno rhoddion seiliedig ar sgiliau er mwyn helpu partneriaid elusennol i gychwyn eu teithiau data eu hunain, cael hyd i ffordd trwyddynt, a’u hehangu.

Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf rhaglen DataAid ym mis Ionawr eleni. Gwelwyd Prifysgol Caerdydd yn cysylltu â phedair prifysgol arall yng Nghymru a’r De-orllewin, wrth i fyfyrwyr PhD weithio gydag elusennau yn y Deyrnas Unedig i ddatrys problemau data byd go iawn.

Roedd y myfyrwyr yn dod o ddwy ganolfan: DI-CDT (Canolfan Data Ddwys ar gyfer Hyfforddiant Doethurol) ac AIMLAC (Canolfan ar gyfer hyfforddiant Doethurol mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peiriannol a Chyfrifiadura Uwch).

Cynhaliwyd digwyddiad hac-a-thon ar gyfer tair elusen - Sefydliad Masnach Deg, The Diana Award a Chance to Shine - y sefydlwyd pob un ohonynt gyda thîm o 7-9 o fyfyrwyr, dan arweiniad myfyriwr.

Yn ystod y digwyddiad, bu timau o ddadansoddwyr gwirfoddol yn gweithio ar gyfres o broblemau a gyflwynwyd gan y partneriaid elusennol, cyn rhannu eu canfyddiadau mewn sesiwn i gloi.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i elusennau sicrhau dealltwriaeth newydd o’r data maen nhw’n ei gadw, ac yn eu grymuso i wella’u galluoedd o ran data wrth symud ymlaen.

Dywedodd Chance to Shine wrthyn ni,

“Mae gennym ni ddata mawr a chyfoethog, ond does gennym ni ddim arbenigedd nac amser i edrych yn fanwl ar ein data.

Mae’r dadansoddwyr a fu’n gweithio ar ein data wedi darparu dadansoddiad a thechnegau lefel uwch ar ein cyfer, e.e. edrych ar gyfatebiaeth rhwng gwahanol newidynnau fel rhywedd, oed, lleoliadau prosiectau etc.

Bydd y dadansoddiadau gwerthfawr yn cefnogi ein naratif mewn ceisiadau am arian ac wrth gyfathrebu â chynulleidfaoedd ehangach. At ei gilydd, fe gawson ni brofiad cadarnhaol iawn a chanfyddiadau gwerth chweil.”

Roedd y digwyddiad nid yn unig o fudd i’r elusennau, ond hefyd i’r myfyrwyr dan sylw.

Roedd trefnu digwyddiad ar raddfa fawr yn datblygu sgiliau allweddol, gan eu bod yn cydgysylltu prifysgolion â phartneriaid elusennol, yn trefnu i drosglwyddo a storio data yn ddiogel, ac yn trefnu hysbysebu, cynllunio a recriwtio ar gyfer y digwyddiad.

Roedd y myfyrwyr yn cael bod y profiad hwn wedi rhoi hwb i’w hunan-barch a’u hyder:

“Roedd yn wych gallu cymhwyso’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu yn y brifysgol a gallu helpu elusennau! Buon ni nid yn unig yn gwella’n sgiliau cyfredol, ond hefyd yn datblygu ein sgiliau arwain, trefnu a chyfathrebu.” - Myfyriwr CDT AIMLAC.

Rhannodd Cynrychiolydd CDT,

“Mae ein CDTs yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gaffael y sgiliau a’r technegau diweddaraf ym maes gwyddor data, deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannol, a chaffael profiad gwerthfawr yn y gweithle gyda phartneriaid allanol, y cyfan wrth gynnal gwaith ymchwil gwyddonol blaengar sy’n arwain at radd doethuriaeth.

Rydym ni wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau hyfforddiant arbenigol ar draws y pum prifysgol, ond mae DataAid yn sefyll allan oherwydd ei fod yn cael ei arwain gan y myfyrwyr, a’i ysgogi gan ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb cymdeithasol mewn cyfnod anodd. Rydym ni’n falch iawn o’r hyn mae egni ac arbenigedd ein myfyrwyr wedi’i gyflawni.” -

Cefnogwyd y digwyddiad gan The Giving Department, ymgynghoriaeth sy’n gweithio ar y cyd ag elusennau, partneriaid diwydiannol ac academyddion i gysylltu arbenigedd ar draws parthau er mwyn cyflawni newid cymdeithasol. Hefyd bu Supercomputing Wales yn gosod y gweinydd o bell ar gyfer storio’r data yn ddiogel ac yn darparu Peirianwyr Meddalwedd Ymchwil yn y digwyddiad, i gynorthwyo’r myfyrwyr.

Rhannu’r stori hon

There are so many reasons to choose physics and astronomy at Cardiff University.