Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaeth ar gyfer arloeswr ym maes seryddiaeth tonnau disgyrchol

10 Mai 2021

Bernard Schutz

Mae'r Athro Bernard Schutz o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd wedi'i wneud yn un o Gymrodorion y Gymdeithas Frenhinol.

Mae’r Athro Schutz wedi’i wneud yn Gymrawd oherwydd ei gyfraniad hollbwysig at y maes seryddiaeth tonnau disgyrchol.

Yr Athro Schutz yw un o arbenigwyr blaenllaw’r byd ar donnau disgyrchol – tonnau bach mewn gofod-amser yn sgîl digwyddiadau cosmig nerthol. Mae hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o greu’r prosiectau sydd, o’r diwedd, yn gallu gweld y digwyddiadau hyn, yn ogystal â datblygu’r modelau gwyddonol sy’n disgrifio beth mae’r digwyddiadau hyn yn ei ddweud wrthym am y bydysawd.

“Mae’n bleser ac yn fraint fawr cael y gydnabyddiaeth hon gan wyddonwyr mor enwog. Mae hefyd yn cydnabod pa mor gyffrous a phwysig y mae’r maes seryddiaeth tonnau disgyrchol wedi dod,” meddai’r Athro Schutz wrth dderbyn y wobr.

Mae ei yrfa enwog yn ymestyn dros 50 mlynedd, ac mae wedi mynd ag ef dros y byd i gyd er mwyn gweithio ochr yn ochr â rhai o wyddonwyr gorau ein cenhedlaeth.

Ac yntau wedi cael ei PhD o Sefydliad Technoleg Califfornia ym 1971, cafodd ei oruchwylio gan Kip Thorne, ffisegydd sydd bellach wedi ennill Gwobr Nobel, a gwnaeth perthynas agos ffurfio rhyngddynt a fyddai’n dod yn hollbwysig i ddatblygiad y maes seryddiaeth tonnau disgyrchol.

Ar ôl hynny, aeth yr Athro Schutz i Brifysgol Caergrawnt, lle gweithiodd gyda’r diweddar Stephen Hawking a Martin Rees, y Seryddwr Brenhinol presennol.

Ar ôl gwneud gwaith pellach ym Mhrifysgol Iâl, daeth yr Athro Schutz i Gymru er mwyn mynd i Goleg Prifysgol Caerdydd, ei enw ar y pryd, ym 1974.

Dyma bryd y gwnaeth yr Athro Schutz ddatblygu’r theorïau a fyddai’n dod yn adnoddau safonol ar gyfer chwilio am arwyddion o donnau disgyrchol mewn data. Ar yr un pryd, byddai hyn yn arwain at wneud llawer iawn o ymchwil i donnau disgyrchol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mewn papur ym 1986, dangosodd yr Athro Schutz sut y gall tonnau disgyrchol gael eu defnyddio i fesur pa mor gyflym y mae’r bydysawd yn ehangu. Y gyfradd ehangu cosmig yw’r enw ar hyn. Dangosodd fod tonnau disgyrchol yn sgîl gwrthdrawiad yn ‘seirenau safonol’ sy’n cynnwys gwybodaeth am eu pellter o’r Ddaear.

“Wrth ystyried yr adeg pan ddechreuodd y gwaith hwn yng Nghaerdydd, rwy’n ddyledus dros ben i’r myfyrwyr ymchwil a’m cydweithwyr ôl-ddoethurol. Gwnaethant ddangos cymaint o frwdfrydedd ac egni wrth osod y sylfeini ar gyfer yr hyn a oedd i ddod. Rwyf hefyd yn ddyledus dros ben i’r Brifysgol am gefnogi ac annog gwaith nad oeddem yn mynd i elwa arno o gwbl tan ymhell yn y dyfodol,” meddai.

Byddai'n rhaid iddo aros 30 mlynedd tan i’w theori gael ei chydnabod, pan gafodd tonnau disgyrchol, yn ogystal â thonnau electromagnetig, eu darganfod gan Gydweithrediad Gwyddonol LIGO a Chydweithrediad Virgo, ochr yn ochr â sawl lloeren seryddol a thelesgop.

Digwyddodd hyn yn syth ar ôl i donnau disgyrchol gael eu darganfod am y tro cyntaf erioed gan Gydweithrediad LIGO yn 2015. Daeth y signal yn sgîl gwrthdrawiad dau dwll du. Ers hynny, mae wedi cael ei ddisgrifio fel y darganfyddiad gwyddonol mwyaf pwysig yn ystod y 100 mlynedd diwethaf.

Gwnaeth yr Athro Schutz helpu i osod y sylfaen ar gyfer Cydweithrediad LIGO yn y 1980au ar y cyd â’i gyn-fentor, Kip Thorne. Ers hynny, mae wedi ysgogi datblygiad llwyddiannus y cydweithrediad, sydd bellach yn cynnwys dros 1,300 o wyddonwyr o wledydd ar draws y byd.

Ar wahân i’w waith yng Nghaerdydd, symudodd yr Athro Schutz i'r Almaen ym 1995 er mwyn bod yn un o ddau gyfarwyddwr a sefydlodd Sefydliad Ffiseg Ddisgyrchol Max Planck (Sefydliad Albert Einstein). Erbyn hyn, gyda mwy na 300 o staff, y sefydliad yw’r mwyaf yn y byd sydd wedi’i neilltuo i ymchwil disgyrchiant. Ar ôl ymddeol o’r swydd honno yn 2014, gwnaeth ddychwelyd i Brifysgol Caerdydd fel Athro Ffiseg a Seryddiaeth a chyfarwyddwr cyntaf Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data’r Brifysgol.

Mae dod yn un o Gymrodorion y Gymdeithas Frenhinol yn cael ei ystyried yn eang ymhlith gwyddonwyr yn un o’r anrhydeddau mwyaf. Mae’r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at y gwaith o wella gwybodaeth naturiol yn cael eu gwneud yn Gymrodorion.

Mae'r Athro Schutz yn ymuno â grŵp o ffisegwyr blaenllaw ar y rhestr, gan gynnwys Isaac Newton, Albert Einstein a Michael Faraday.

Dyma'r diweddaraf i gael ei ychwanegu at restr hir o anrhydeddau’r Athro Schutz yn ystod ei yrfa – i enwi ond ychydig, mae wedi cael ei ethol i Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yr Unol Daleithiau, wedi dod yn un o Gymrodorion Cymdeithas Ffisegol America, y Sefydliad Ffiseg a Chymdeithas Ddysgedig Cymru ac, yn fwyaf diweddar, wedi derbyn Medal Eddington gan y Gymdeithas Seryddol Frenhinol a Gwobr Isaacson mewn Gwyddor Tonnau Disgyrchol gan Gymdeithas Ffisegol America yn 2020.