Ewch i’r prif gynnwys

Arweinydd Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y DU yn cael ei benodi’n athro er anrhydedd

10 Mai 2021

Dr Wyn Meredith yn cael ei ganmol gan Brifysgol Caerdydd

Mae Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr Sefydlol y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC), sef menter busnes ar y cyd rhwng IQE plc a Phrifysgol Caerdydd, wedi’i benodi’n Athro er Anrhydedd gan y Brifysgol.

Dr Wyn Meredith

Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad rhagorol Dr Meredith at y gwaith o drosglwyddo ymchwil i gymwysiadau diwydiannol. Ers i CSC gael ei ffurfio yn 2015, mae wedi gwneud ymchwil helaeth ac ymgymryd â phrosiectau datblygu cynnyrch newydd gwerth mwy na £80 miliwn ym meysydd laserau telathrebu cyflym, cydrannau ffotonig ar gyfer systemau cwantwm a lled-ddargludyddion cyfansawdd mewn cymwysiadau amledd radio a phŵer.

Ac yntau’n un o raddedigion Prifysgol Caergrawnt, mae Dr Meredith, sy’n dod o Abertawe’n wreiddiol, wedi gweithio gydag Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ers mwy na 20 mlynedd yn rhoi cyngor arbenigol ar ryngweithio â’r diwydiant.

Gwnaeth PhD mewn technoleg deuod laser glas ym Mhrifysgol Heriot-Watt ym 1996, a gafodd ei noddi gan ganolfan ymchwil a datblygu British Telecom. Mae wedi gweithio ym maes optoelectroneg ers tri degawd a chyflawni rolau technegol a masnachol yn Ferranti, Sharp Laboratories of Europe, Detica (BAE Systems erbyn hyn), CST (Sivers Photonics erbyn hyn) ac IQE plc.

Dywedodd Dr Meredith: “Mae derbyn y teitl hwn ar adeg gyffrous iawn ar gyfer ymchwil i led-ddargludyddion uwch ym Mhrifysgol Caerdydd yn fraint. Mae'r Brifysgol wedi buddsoddi’n helaeth, yn strategol ac yn barhaus mewn gwella capasiti ar gyfer gwaith ymchwil er mwyn cefnogi’r diwydiant lled-ddargludyddion yn ne Cymru. Bydd agor y Ganolfan Ymchwil Drosiadol newydd yn 2022, sy’n werth mwy na £100 miliwn, gan gynnwys cyfleuster creu dyfeisiau newydd i fod yn gartref i’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, yn bwysig ar gyfer trosi ymchwil fasnachol yn y rhanbarth. Edrychaf ymlaen at chwarae rhan yn ei lwyddiant.”

Wrth groesawu’r penodiad, dywedodd yr Athro Colin Riordan , Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o roi'r teitl anrhydeddus hwn i Dr Meredith am ei gyfraniad rhagorol at y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ne Cymru ac arbenigedd cynyddol y Brifysgol mewn dylunio, profi a gweithgynhyrchu dyfeisiau lled-ddargludyddion cyfansawdd."

Sglodion electronig mân yw lled-ddargludyddion cyfansawdd sy'n sbarduno technolegau yfory. Maent yn gyflymach ac yn fwy hyblyg na silicon. Maent i’w cael mewn amrywiaeth o gynhyrchion arloesol – o ffonau symudol i gerbydau trydan. Ar hyd coridor yr M4, mae busnesau a sefydliadau

academaidd wedi bod yn gwneud gwaith ar led-ddargludyddion cyfansawdd ers degawdau – o wneud ymchwil academaidd bur i ddylunio dyfeisiau a gweithgynhyrchu wafferi. Mae Dr Meredith wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o ddod â'r sefydliadau hyn ynghyd fel CSConnected – clwstwr cyntaf y byd ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Mae’r Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, wedi gweithio gyda Dr Meredith ers dros 20 mlynedd.

“Mae Wyn wedi gwneud cyfraniad rhagorol at ddiwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd y DU, Cymru a’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Ymunodd â phanel cynghori allanol yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn 2013, ac mae wedi cyfrannu'n sylweddol at lwyddiant yr ysgol. Mae Wyn yn aelod o fwrdd cynghori annibynnol y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, ac mae wedi rhoi cyngor gwerthfawr iawn ar ystod eang o bynciau sy’n cynnwys gweithdrefnau gweithredu, mecanweithiau rhyngwyneb diwydiannol ac offer.”

“Gweithiais gyda Wyn hefyd fel cyn-aelod o’r Tîm Cynghori Strategol ar gyfer portffolio TGCh Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), ac roeddwn yn ymwybodol iawn o’r cyfraniad rhagorol a wnaeth bryd hynny. Ar ôl hynny, rhoddodd gyngor i Dîm Seilwaith Ymchwil a Thîm Technolegau Cwantwm EPSRC.”

Mae Dr Meredith hefyd yn un o Gyfarwyddwyr Anweithredol y Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ac yn Gynghorydd Rhyngwyneb Diwydiannol i Ganolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC fel rhan o gyfraniad CSC at y ganolfan. Yn fwy diweddar, Dr Meredith oedd prif awdur prosiect Cronfa Cryfder mewn Lleoedd llwyddiannus y rhanbarth gwerth £43 miliwn i ehangu’r clwstwr. Ar hyn o bryd, mae’n cadeirio’r Grŵp Rheoli sydd â’r dasg o gyflawni’r prosiect.

Rhannu’r stori hon