Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr sy’n archwilio profiad ceiswyr lloches yn ennill gwobr datblygu Cymru

4 Mai 2021

Keira McNulty
Keira McNulty

Mae myfyriwr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi derbyn gwobr datblygu o £2500 i gynnal prosiect cymunedol ar geiswyr lloches.

Mae'r myfyriwr Cysylltiadau Rhyngwladol, Keira McNulty (BA 2019, MScEcon 2021), wedi cael ei henwi’n enillydd Gwobr Datblygu Jiwbilî Arian Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru eleni.

Bydd Keira yn derbyn y swm o £2500 yn ddiweddarach eleni i gychwyn ar brosiect a ysbrydolwyd gan ei thraethawd hir a oedd yn ymchwilio i'r syniad o gartref fel gwrthrych cysyniadol mewn perthynas â grwpiau sy’n chwilio am noddfa a cheiswyr lloches.

Canfu Keira fod angen i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ryngweithio â llu o sefydliadau er mwyn preswylio yng Nghymru. Mae sefydliadau rhyngwladol, Cyfraith Fewnfudo'r Deyrnas Unedig, Polisi Cymru a sefydliadau cymunedol lleol i gyd yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpu’r rhai sy’n chwilio am noddfa i (ail)ddiffinio eu syniad o gartref. Dim ond ar ôl dilyn llwybr cyfreithiol cymhleth sy'n pennu statws ffoadur y gall ceiswyr lloches ddechrau integreiddio eu hunain i'r sefydliadau yn y wlad y maent wedi mudo iddi (iaith, marchnad lafur, y gymuned sefydledig, ac ati).

Mae Keira yn bwriadu defnyddio ei gwobr i ariannu prosiect ffotograffiaeth dan arweiniad grwpiau sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru. Bydd yn teithio i bob ardal wasgaru yng Nghymru ac yn cynnal cyfweliadau cerdded gyda chyfranogwyr. Ei dymuniad yw darganfod mwy am eu profiadau o Gymru, yn rhai cadarnhaol a negyddol. Ei gobaith yw rhoi llwyfan i bobl siarad am y materion y maent wedi'u hwynebu a rhannu eu naratifau personol eu hunain.

Drwy gydol ei MSc, bu Keira yn gwirfoddoli gyda phobl sy'n ceisio lloches, gan ddod yn fentor ac yn bwynt cyswllt i bobl mewn llety a ddarparwyd gan Home4U, elusen fach sy'n rhoi llety i bobl sy'n ceisio lloches ac sydd hefyd yn wynebu cyni a digartrefedd.

Dywedodd Keira, "Wrth wirfoddoli fe ddes i ar draws person oedd wedi bod yn y system loches ers chwe blynedd. Fe ddywedodd wrthyf ei fod wedi colli ei gartref oherwydd gwrthdaro mewnol yn ei wlad a'i fod am ailadeiladu cartref yma, ond nad oedd y system anhyblyg yn caniatáu hynny. Yn union fel cynifer o bobl a oedd yn ceisio lloches yn y Deyrnas Unedig, nid oedd ganddo'r hawl i weithio a bu'n rhaid iddo aros blynyddoedd i brofi ei gais am loches. Oni bai am sefydliadau cymunedol a gwaith elusennol unigolion, ni fyddai wedi cael unrhyw gefnogaeth."

Dywedodd, "Yn rhy aml, rydyn ni’n grwpio pobl gyda'i gilydd ac yn siarad am brofiadau drwy un lens, gan anghofio bod gan bobl hunaniaethau aml-ddimensiwn a phrofiadau unigryw. Fy nghynllun i yw creu gwefan â'r lluniau a'r dyfyniadau rwy'n eu casglu a chynyddu ymwybyddiaeth o sefyllfa druenus y rhai sy’n chwilio am noddfa."

Dywedodd Dr Sara Dezalay, Uwch Ddarlithydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, a fu’n cefnogi Keira gyda'i chais, "Mae cyflawniad Keira yn arddangos gwydnwch aruthrol ein myfyrwyr yn y cyfnod anodd hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau i’r dyfodol. Rydym yn ddiolchgar i Agnes Xavier-Phillips (LLB 1983), Cadeirydd Pwyllgor Cysylltiadau Cyhoeddus Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, ac i TJ Rawlinson, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr, am ddod â Gwobr Datblygu'r Jiwbilî Arian a’r Cwmni Lifrai i'n sylw."

Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (a adwaenid gynt fel Urdd Lifrai Cymru) yn 1993 i hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru.  Cyflwynir ei Wobr Datblygu Jiwbilî Arian i berson ifanc neilltuol i hyrwyddo datblygiad academaidd neu broffesiynol ymhellach drwy ymgymryd â phrosiect arloesol neu gymryd rhan mewn cwrs lefel uchel nad oedd wedi'i gynnwys yn flaenorol gan gynllun Gwobrau’r Lifrai. Ariennir Gwobr Datblygu'r Jiwbilî Arian gan yr arian a godwyd gan y Meistr Blaenorol Gillian Davies drwy Gronfa Apêl y Jiwbilî Arian.

Rhannu’r stori hon