Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Datblygiad Aur i ymchwilydd

28 Ebrill 2021

Dr David Williams

Dyfarnwyd £5,000 i Dr David Elwyn Williams (BEng 2014, PhD 2019), ymchwilydd mewn peirianneg feddygol, gan Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru, fel enillydd eu Gwobr Datblygiad Aur 2021.

Diben Gwobr Datblygiad Aur Cwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru yw cynnig gwobr sylweddol i unigolyn ifanc sydd wedi dangos cyfraniad pwysig i'r celfyddydau, gwyddoniaeth neu dechnoleg er budd pobl Cymru.

Rhoddwyd y wobr ar gyfer 2020-2021 i Dr David Elwyn Williams o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd am ei waith arloesol ar ddatblygu a dilysu system i fesur symudiad mewnol cymalau pen-glin a ffêr yn ystod gweithgareddau bywyd bob dydd. Gwnaeth David ddylunio a goruchwylio’r gwaith o adeiladu'r system pelydr-X fideo deubegwn unigryw, wedi'i leoli yng Nghyfleuster Ymchwil Biomecaneg Cyhyrysgerbydol y Brifysgol, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gynnal archwiliadau o gymalau.

Yn ychwanegol at ei brif waith fel Cydymaith Ymchwil, mae David wedi ymestyn ei broffil trwy chwarae rhan weithredol wrth hyrwyddo Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg fel llysgennad STEM ym Mhrifysgol Caerdydd gan helpu i sefydlu'r Diwrnod Biomecaneg cyntaf yng Nghymru.

Bydd y wobr yn galluogi David i ddatblygu ei waith, gan ganiatáu mynediad at y sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) a darparu offer TG arbenigol.

Ymgeisiodd David am y Wobr Datblygiad Aur er mwyn iddo allu arwain ei astudiaeth beilot ei hun a chasglu data prawf cysyniad hanfodol fydd yn cynorthwyo cais arfaethedig am Gymrodoriaeth Ymchwil yn y dyfodol.

Wrth drafod ei Wobr Datblygiad Aur, dywedodd David: "Hoffwn ddiolch i Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru am eu cefnogaeth wych dros y flwyddyn ddiwethaf. Hoffwn hefyd ddiolch i fy rheolwr llinell yr Athro Cathy Holt sydd wedi bod yn gefnogol drwy gydol fy ngyrfa a'r cais hwn. Mae'r Athro Holt yn parhau i helpu i fy ngwthio a fy nghefnogi i gyflawni annibyniaeth ymchwil."

Dyma'r ail dro i waith Dr Williams dderbyn cydnabyddiaeth y Lifrai. Enillodd David hefyd Wobr Teithio Peirianneg am ei ymchwil yn 2020.

Cyflwynwyd y wobr gan yr Athro Rhys Pullin, Pennaeth yr Adran Peirianneg Fecanyddol a Meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd mewn seremoni wobrwyo rithwir.

Rhannu’r stori hon