Ewch i’r prif gynnwys

Bwriad Stiwdio Dylunio Trefi Trigiadwy i fanteisio ar gyfrannu torfol i greu map o ddinas yn yr India.

22 Ebrill 2021

Map of Kochi
Map of Kochi, India

Mae Stiwdio Dylunio Trefi Trigiadwy Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn bwriadu creu map sustem wybodaeth ddaearyddol o ddinas Cotsin, yr India, trwy wefan gyfrannu torfol.

Bydd y prosiect uchelgeisiol yn mapio pob ffordd ac adeilad yn y ddinas, gan ofyn i’r trigolion lenwi holiadur i’w helpu i nodi amryw rannau o’r ddinas, megis yr amgylchedd ffisegol, ar fap. Defnyddir y map wedyn i ddadansoddi’r ddinas yn fanwl, a nod y stiwdio yw pennu delfryd i’w hybu yn ôl tystiolaeth a llunio strategaeth drefol egnïol fel y bydd y ddinas yn fwy cynaladwy a thrigiadwy ar ôl ystyried y cymhlethdodau cymdeithasol, ecolegol, economaidd ac arbennig i gyd.

Meddai’r Dr Shibu Raman, Darlithydd Pensaernïaeth a Dylunio Trefol:

“Un o’r anawsterau mwyaf ynghylch gweithio gyda dinasoedd mewn rhaglen uchelgeisiol o’r fath yw argaeledd data a mapiau, ac mae hynny’n bwysicach fyth mewn gwledydd tlotach. Mae data ar ffurf map sustem wybodaeth ddaearyddol yn hanfodol i fodelu dinasoedd yn ddadansoddol a chan nad oedd data o’r fath, aeth Stiwdio Dylunio Trefi Trigiadwy ati i lunio map trwy weithdy cydweithredu â myfyrwyr pensaernïaeth lleol.”

Bellach, mae’r stiwdio’n bwriadu paratoi data manwl am nodweddion amgylcheddol, ecolegol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y ddinas, ynghyd ag ymddygiad ei thrigolion o ran teithio, a chyflwyno ei syniadau a’i strategaethau creadigol i’r ddinas fis Mehefin neu Orffennaf trwy arddangosfa rithwir o’r gwaith.

Mae papur newydd y Times of India wedi trafod y prosiect ddwywaith bellach a’r gobaith yw y bydd rhagor o ddata ar gael o ganlyniad.

Meddai’r Dr Raman:

“Rwy’n fodlon iawn ar y modd y canolbwyntion ni ar y nod uchelgeisiol o lunio map o ddinas gyfan o’r newydd er gwaethaf gofynion y pandemig. O ganlyniad i baratoi map, rydyn ni mewn sefyllfa well ar gyfer y canlynol: dadansoddi trefol, modelu gofodol manwl, dadansoddi morffometrig a meithrin cysylltiadau â grwpiau ymchwil lleol a rhyngwladol ynghylch modelu trefol.”

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar wefan Trefi Trigiadwy.

Rhannu’r stori hon