Ewch i’r prif gynnwys

Gerddi a mannau gwyrdd yn cael eu cysylltu ag iechyd meddwl gwell yn ystod y pandemig, yn ôl astudiaeth

16 Ebrill 2021

Yn ôl astudiaeth newydd, roedd pobl oedd â man gwyrdd ar garreg y drws, neu fynediad at ardd breifat, yn teimlo bod eu hiechyd a’u lles yn well yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ac wedi hynny.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dangos bod pobl â gardd a pharc gerllaw yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n fodlon, yn dawel eu meddwl a bod ganddyn nhw lawer o egni o gymharu â'r rhai heb fynediad at ardd neu'n byw ymhellach i ffwrdd o fan gwyrdd.

Yn ôl ffigurau swyddogol, nid oedd gan tua un o bob wyth cartref ym Mhrydain Fawr fynediad at ardd breifat neu a rennir yn ystod pandemig y coronafeirws, a dim ond tua chwarter o bobl sy’n byw o fewn pum munud ar droed i barc cyhoeddus.

Yn ôl yr ymchwilwyr, hon yw’r astudiaeth gyntaf i asesu effaith mannau gwyrdd yn ystod y pandemig, a’i bod yn amlygu manteision enfawr i iechyd y meddwl a’r corff, ac yn gwneud ein cymunedau’n fwy gwydn.

Yn yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Landscape & Urban Planning, holodd yr ymchwilwyr 5,556 o bobl am eu cartref a’u cymdogaeth, yn ogystal â’u iechyd meddwl a’u lles yn eu barn nhw. Cawson nhw eu holi ddwywaith - y tro cyntaf ym Mawrth/Ebrill 2020 yn ystod ton gyntaf y pandemig, a’r eildro ym Mehefin/Gorffennaf 2020 wedi i’r don gyntaf o achosion ostwng.

Yn ystod 2-3 mis cyntaf y cyfnod clo, dim ond ar gyfer teithiau hanfodol yr oedd pobl yn cael mynd o’u cartref, megis ar gyfer siopa bwyd ac i wneud ymarfer corff unwaith y dydd.

Roedd yr arolwg yn rhan o astudiaeth Profiadau Cyhoeddus COVID-19. Cafodd y mwyafrif o’r rhai a gymerodd ran eu recriwtio drwy Doeth am Iechyd Cymru, sy’n astudiaeth hydredol genedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Ymhlith ystod eang o bynciau, gofynnwyd yn benodol i'r a oeddent yn teimlo'n fodlon, yn dawel eu meddwl ac yn egnïol, neu a oedden nhw’n teimlo'n ddigalon ac yn isel? Rhoddwyd atebion ar raddfa o sero i bump. Yn yr un modd, gofynnwyd sut bydden nhw’n disgrifio eu hiechyd yn gyffredinol ar raddfa o un i bump.

Gofynnwyd iddyn nhw hefyd a oedd mynediad at ardd breifat ganddyn nhw a pha mor bell roedden nhw’n byw o’r man gwyrdd agosaf, fel parc, coetir neu gae chwarae.

Gwelwyd bod lles goddrychol gryn dipyn yn uwch pan gafodd cyfyngiadau eu llacio ar ôl ton gyntaf y pandemig, o’i gymharu â’r adeg pan gyflwynwyd cyfyngiadau’r cyfnod clo yn y DU.

Roedd gan bobl oedd yn byw pump i ddeng munud neu fwy o daith cerdded i ffwrdd o fan gwyrdd cyhoeddus lefelau is o les goddrychol na’r rhai oedd yn byw lai na phum munud o daith gerdded i ffwrdd, ac roedd gan y rhai oedd â mynediad at ardd breifat lefelau uwch o les goddrychol na’r rhai oedd heb ardd breifat.

Mae'r canlyniadau'n dangos hefyd bod mynediad at fannau gwyrdd yn arbennig o bwysig i aelwydydd heb ardd breifat yn ystod ton gyntaf y pandemig. Cafodd bod yn agos at fan gwyrdd cyhoeddus effaith fwy cadarnhaol ar ddiogelu iechyd o’i gymharu â’r rhai oedd heb fynediad at ardd breifat,

Er y gwelwyd cysylltiad ystadegol arwyddocaol rhwng cael mynediad at ardd breifat a lles dynion, ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o grwpiau penodol yn elwa’n fwy nag eraill.

“Beth mae hyn yn ei ddangos yw bod gerddi a pharciau wedi bod yn hanfodol i iechyd a lles pobl yn ystod y pandemig, yn enwedig pan oedd y cyfyngiadau llymaf ar waith,” meddai prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Wouter Poortinga, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.

“Mae parciau cyhoeddus a mannau gwyrdd eraill wedi bod yn amhrisiadwy i lawer yn ystod y cyfnodau anodd hyn.”

“Rhaid i ni wneud yn siŵr bod mannau o’r fath ar gael i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Gellir gwneud hyn trwy blannu mwy o goed a chreu parciau newydd, yn ogystal â thrwy amddiffyn mannau gwyrdd presennol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.”

Meddai cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Rhiannon Phillips, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd: “Yn ystod y pandemig, mae mannau gwyrdd wedi cynnig lle inni gysylltu â natur, bod yn egnïol yn gorfforol, a chymdeithasu pan mae’r rheoliadau’n caniatáu. Mae hyn wedi golygu bod treulio amser mewn gerddi preifat a mannau gwyrdd cyhoeddus wedi chwarae rôl hanfodol o ran lleihau effaith y pandemig ar iechyd a lles pobl.

“Mae gofalu am ein mannau gwyrdd yn hanfodol bwysig er mwyn ein galluogi i ofalu amdanom ein hunain. Mae angen i ni werthfawrogi ein mannau gwyrdd a’u defnyddio’n barchus. Rhaid gwneud yn siŵr nad ydym yn niweidio’r amgylcheddau hyn a’n bod yn mynd â’n sbwriel gartref, fel bod pawb yn gallu eu mwynhau.”

Ariannwyd yr ymchwil trwy gynllun Sêr Cymru Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon