Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 2 2019

16 Ebrill 2019

Multicolour flow

Cofiwch bŵer araeau micro!

Gall araeau micro newydd gan Affymetrix (Thermo Fisher bellach), sy’n canfod mynegiant amrywiad genyn, exon a sbleisio, fod yn ddewis amgen cyflym a chost-effeithiol i RNA-Seq. Mae’n bosibl mai araeau micro yw’r dewis gorau os ydych chi yng ngham darganfod eich ymchwil, ac eisiau gwerthuso samplau mewnbwn isel neu swm isel o drawsgrifiadau cyn defnyddio technegau mwy penodol megis qPCR. Araeau micro yw’r dewis gorau hefyd os oes perygl i ansawdd eich RNA. Maent yn cynnwys cefnogi dadansoddiad sampl FFPE, canfod trawsgrifiad prin a dadansoddiad mynegiant genynnau gwahaniaethol. Cliciwch yma i ddeall mwy am ddewis y dechnoleg gywir ar gyfer eich ymchwil. Cysylltwch â ni neu dewch i siarad er mwyn dysgu mwy am sut y gall araeau micro helpu eich ymchwil CHI.

Diwrnod Seminar Cytometreg Llif Aml-liw BD

Cadwch le nawr i ddod i’n diwrnod seminar addysgiadol ar cytometreg llif aml-liw ddydd Mercher 1 Mai. Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim - ac yn cynnwys cinio am ddim! Cliciwch yma i weld agenda’r diwrnod seminar, manylion amdano ac i gadw eich lle. Ymunwch â’r seminar i ganfod dulliau eang o ddylunio panel a dadansoddiad aml-omeg. Cliciwch yma i gael trosolwg o cytometreg llif aml-liw.

TissueLyser II homogeniser

A wyddoch chi fod gennym ni TissueLyser II homogeniser y gallwch ddefnyddio? Mae’r TissueLyser II yn lain hyblyg sydd wedi’i ddylunio ar gyfer tarfu’n gyflym ac effeithiol ar oddeutu 48 sampl ar yr un pryd. Caiff pob sampl ei darfu yn gydamserol a’i wneud yn unffurf gan symudiad ysgwyd cyflym gyda glain mewn tiwb wedi’i selio (melino gleiniau). Nid oes croes-halogi yn ystod tarfu ar y sampl, gan fod pob tiwb wedi’i selio yn ddiogel gyda’i gaead ei hun. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth ynghylch defnyddio offer sy’n arbed arian.

Mae ein cyfleuster qPCR wedi symed

Mae ein cyfleuster qPCR nawr wedi symud i adeilad BARRI sydd ar islawr Adeilad Henry Wellcome. Cofiwch fod gennym robot Eppendorf epMotion P5073 sy’n delio â hylif, wedi’i leoli yn ein cyfleuster qPCR, ac mae’n gallu dosbarthu yn gyflymach ac yn fwy cywir. Mae’r robot yn hwn yn system hyblyg ar gyfer awtomeiddio prosesau pibedu cymhleth sy’n gwastraffu amser, ac mae’n eich helpu i ddileu gwallau pibedu gan wneud y mwyaf o atgynyrchioldeb eich profion. Cysylltwch â ni heddiw i gael gwybod rhagor.

Diolch i’r llawer ohonoch a aeth i’n seminarau a sesiynau hyfforddi diweddar gan gynnwys cytometreg llif, meddalwedd FlowJo, Nanostring a thechnoleg MSD. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth, a chadwch lygad ar ein gwefan am fanylion rhagor o ddigwyddiadau.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.