Ewch i’r prif gynnwys

BOF yn dodrefnu tri adeilad Prifysgol Caerdydd

13 Ebrill 2021

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda'r cyflenwr dodrefn annibynnol BOF i ddodrefnu tri o'i phrif adeiladau newydd.

Mae'r cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr a Birmingham wedi cael y contract i ddarparu dodrefn ar gyfer adeiladau sbarc | spark ,Canolfan Ymchwil Drosiadol (TRH) ac Abacws drwy Fframwaith Dodrefn YPO yn dilyn proses dendro gystadleuol drylwyr.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad fel arbenigwr dodrefn yn y sectorau addysg, cyhoeddus a phreifat, mae BOF yn creu amgylcheddau ysbrydoledig drwy gynnig dodrefn gan weithgynhyrchwyr lleol a byd-eang.

Dywedodd James Dando, Prosiectau Cyfalaf BOF: "Mae'r prosiect hwn yn gyfle gwych i brifysgol Caerdydd a BOF gyflawni gweledigaeth cleientiaid ar gyfer yr adeiladau hyn ac i gyflawni dyheadau allweddol cleientiaid h.y. 'cynhyrchu amgylchedd sy'n annog creadigrwydd, arloesedd a chydweithredu – sy'n adlewyrchu ethos Prifysgol Caerdydd a BOF."

Mae'r Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor, Pennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn goruchwylio'r gwaith o gyflwyno sbarc | spark, ac mae'r Athro Rudolf Allemann,, Rhag Is-Ganghellor Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, yn goruchwylio adeiladau'r Ganolfan Ymchwil Drosiadol (TRH) ac Abacws.

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda BOF, cyflenwr dodrefn annibynnol lleol sydd ag enw da yn rhyngwladol am lunio amgylcheddau addysgol ysbrydoledig.

"Mae uchelgais y cwmni yn cyd-fynd yn berffaith â sbarc, magnet yn y dyfodol i feddylwyr a gwneuthurwyr sy'n gallu tyfu mentrau sy'n dod â manteision i Gymru, gyda'r mannau arloesol ar gyfer partneriaethau a arweinir gan ddiwydiant o fewn y TRH, a chydag Abacws - adeilad cyfrifiadureg a mathemateg o'r radd flaenaf.

"Bydd BOF yn cynnig amrywiaeth o ddodrefn arloesol yn y tri adeilad ar gyfer mannau creadigol, parthau bach, ystafelloedd addysgu a ffreutur sbarc. Mae hyn yn seiliedig ar dendr BOF â sgôr uchel ar gyfer cost, ansawdd a chynaliadwyedd.”

Disgwylir i Adeilad Abacws a sbarc | spark agor yn hwyrach eleni, ac yna'r TRH y gwanwyn nesaf. Mae'r adeiladau'n rhan o waith uwchraddio mwyaf ar Gampws Prifysgol Caerdydd ers cenhedlaeth.

Mae sbarc | spark a TRH wedi'u lleoli ar Gampws Arloesedd Caerdydd - 'Cartref Arloesedd' pwrpasol y Brifysgol lle bydd meddyliwyr, gwneuthurwyr a chefnogwyr yn creu prosesau a chynhyrchion newydd, busnesau newydd a chwmnïau deilliannol sy'n helpu Cymru i ffynnu ar ôl pandemig COVID-19.

Rhannu’r stori hon