Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr dinesig Caerdydd yn cael eu hannog i fynd allan i fyd natur i gefnogi prosiect dod o hyd i wenyn y Pasg hwn

1 April 2021

Mae gwyddonwyr dinesig yng Nghaerdydd yn cael eu hannog i ddianc o'r tŷ a helpu gwyddonwyr Prifysgol yn eu hymgais i ddilyn trywydd gwenyn trefol y Pasg hwn.

Wrth i gyfyngiadau symud ymlacio ledled Cymru, mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gofyn i'r cyhoedd gymryd rhan mewn prosiect monitro bioamrywiaeth o'r enw Spot-a-bee.

Maent am i bobl dynnu lluniau o blanhigion a gwenyn ar eu ffonau clyfar a'u lanlwytho i ap pwrpasol – y gellir ei lawrlwytho yma – felly gellir mapio ardaloedd sy'n gyfeillgar i wenyn.

Mae'r data a gesglir yn helpu gwyddonwyr i greu map o amrywiaeth blodau a phryfed yng Nghaerdydd a thu hwnt fel y gallant weld sut mae'n newid. Mae hyn yn ei dro yn helpu i lywio unrhyw gamau sydd eu hangen i amddiffyn amgylcheddau lleol.

Meddai'r Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol y Brifysgol: “Fel y gwenyn, mae pobl yn ail-ymgysylltu â natur a phopeth sydd ganddo i’w gynnig, boed hynny yn ein gerddi cefn ein hunain, parciau lleol neu ymhellach i ffwrdd. Helpwch ni i amddiffyn y creaduriaid pwysig hyn sy'n chwarae rhan mor allweddol wrth gadw Cymru yn lle gwyrdd a dymunol i fyw ynddo."

Lansiwyd Spot-a-bee, sy'n rhan o brosiect Pharmabees y Brifysgol, fis Mai diwethaf mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Ers hynny, mae'r tîm wedi derbyn mwy na 7,000 o luniau, gyda rhai o lefydd mor bell ag Awstralia.

“Er bod yr ymatebion hyn yn galonogol, rydym yn awyddus i recriwtio mwy o wyddonwyr dinesig o Gaerdydd i gyfoethogi ein data lleol a deall sut mae gwenyn trefol yn ffynnu,” meddai’r Athro Baillie.

“Rydyn ni hefyd eisiau i bobl weithio gyda ni i gynyddu bioamrywiaeth y ddinas trwy blannu cymysgedd o hadau arbrofol rydyn ni'n eu cynnig yn rhad ac am ddim mewn siopau lleol yn Grangetown, Cathays a Splott.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i greu planwyr yn Fanny Street yn Cathays ac rydyn ni wrthi'n recriwtio gwirfoddolwyr lleol i gefnogi'r prosiect.”

Trwy fonitro gwenyn dros nifer o flynyddoedd, gall gwyddonwyr asesu effaith newid yn yr hinsawdd a llygredd ar ecosystemau lleol a nodi pa rannau o'r ddinas a allai elwa o gyflwyno planhigion sy’n denu peillwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am fod yn wirfoddolwr, cysylltwch â'r Athro Baillie yn bailliel@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon