Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau uwchgyfrifiadura Hawk

31 Mawrth 2021

Adnoddau uwchgyfrifiadura Hawk

I ateb y galw am wasanaeth estynadwy sy'n galluogi defnydd rhyngweithiol o adnoddau HPC, mae ARCCA wedi gosod nifer o amgylcheddau meddalwedd newydd i gefnogi mynediad defnyddiwr graffigol.

Mae cylchoedd datblygu cyflym ym maes gwyddorau data modern yn gofyn am wasanaeth estynadwy a strwythuredig i ddarparu profiad rhyngweithiol i wella defnyddioldeb adnoddau cyfrifiadurol cymhleth.  Gyda rhyngwynebau hawdd eu defnyddio fel Jupyter Notebooks yn dod yn fwy i'r brif ffrwd mewn amgylcheddau addysgu ac ymchwil, does dim dwywaith y bydd eu hargaeledd yn ganolog gyda chefnogaeth gysylltiedig yn gwella cynhyrchiant defnyddwyr ac yn helpu i yrru'r gwaith o archwilio cyfrifiadurol.  Er bod gwaith HPC yn cael ei wneud yn draddodiadol drwy ryngwyneb llinell orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr nodi gorchmynion y system a llywio drwy ffeiliau neu gyfeiriaduron, mae galw cynyddol am amgylcheddau bwrdd gwaith graffigol a rhaglenni bwrdd gwaith i alluogi mynediad mwy greddfol at adnoddau uwchgyfrifiadura. Bydd darparu amgylcheddau hawdd eu defnyddio o'r fath yn lleihau faint sydd angen ei ddysgu er mwyn gwneud y mwyaf o botensial yr adnoddau caledwedd sylfaenol.

Mewn ymateb i'r angen hwn, sefydlwyd gwasanaeth Cyfrifiadura Rhwydwaith Rhithiol (VNC) newydd yn ddiweddar i ganiatáu i chi gael mynediad er mwyn rannu bwrdd gwaith graffigol ar Hawk. Er mwyn gwella'r gwasanaeth hwn ymhellach, mae ARCCA wedi bod yn gwerthuso cynnyrch ffynhonnell agored, OnDemand, o Brifysgol Talaith Ohio a fydd yn galluogi mynediad at Hawk drwy borwyr gwe safonol.

Mae amgylchedd OnDemand yn rhoi mynediad gwe i ddefnyddwyr at adnoddau Hawk, gwaith monitro'r uwchgyfrifiadur yn seiliedig ar ddefnyddwyr, ac o bosibl yn y tymor hwy barth glanio sengl i gael mynediad at amrywiaeth o systemau cyfrifiadurol ymchwil (ar y safle ac mewn sefydliadau partner/cydweithredol). Gellir sicrhau bod rhaglenni ymchwil poblogaidd gan gynnwys RStudio Server, Jupyter Notebook, Matlab a phecynnau meddalwedd eraill ar gael drwy OnDemand, gan ddarparu llwybrau ategol i ddefnyddio'r cyfleuster.

Caiff platfform OnDemand ei lansio'n llawn ar ddechrau mis Ebrill, ar ôl cwblhau cam gwerthuso'r peilot yn llwyddiannus. Drwy gynnig rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio ar y we, bydd gwasanaeth Hawk nid yn unig yn bodloni gofyniad y gymuned i gefnogi llifoedd gwaith rhyngweithiol yn well, ond hefyd yn lleihau'r rhwystr i gael mynediad ac yn agor mynediad at gymunedau ymchwil ac addysgu newydd.

Rhannu’r stori hon