Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion yn trin a thrafod archifau hanesydd sy'n canolbwyntio ar hil ac amrywiaeth yng Nghymru

30 Mawrth 2021

Front page of William Hall's Personal Narrative
Front page of William Hall's Personal Narrative

Caiff archifau sy'n archwilio hil ac amrywiaeth yng Nghymru yn cael eu harddangos fel rhan o gynhadledd sy'n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd.


Bydd cynhadledd flynyddol Cymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol (SLSA) 2021 yn cael ei chynnal yn rhithiol heddiw a disgwylir i fwy na 700 o gynrychiolwyr fod yn bresennol.

Fel rhan o'i sesiwn lawn sy'n canolbwyntio ar 'Hil, Lle a Chenedl yn y DU', mae'r Archifau Cenedlaethol wedi rhannu deunydd ar Derfysgoedd Hil Caerdydd, a gynhaliwyd ym 1919.


Bydd Llyfrgell Glowyr De Cymru, sydd wedi'u lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn sicrhau bod eu harchif ar Paul Robeson a Chymru ar gael i gynadleddwyr.

Bydd academyddion hefyd yn trafod deunydd sydd wedi'i leoli yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Naratif Caethwasiaeth William Hall - darn prin iawn o hanes Cymraeg Du, a ysgrifennwyd gan un o drigolion Caerdydd, am ei hanes yn dianc rhag caethwasiaeth.

Dywedodd yr Athro John Harrington, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o gynnal cynhadledd SLSA yng Nghaerdydd ac i arddangos gwaddol gyfoethog ysgolheictod ac ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Cynhadledd eleni yw'r gyntaf i gael ei chynnal ar-lein a hon fydd y fwyaf erioed, gyda 500 o gyflwyniadau, a 740 o gynadleddwyr o 43 gwlad.

“Mae Caerdydd wedi bod yn ganolbwynt byd-eang erioed, wedi'i chysylltu â'r byd trwy ei phorthladd, ac yn gartref i un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf Prydain ym Mae Tiger, a gaiff hefyd ei alw’n Butetown. Mae hil a hunaniaeth genedlaethol ar flaen y gad o ran trafodaethau cyhoeddus ledled y byd heddiw. Mae hon yn adeg dda i droi ein sylw at y gwersi hanesyddol o Gymru sydd ag arwyddocâd yn fyd-eang. Rydym yn siŵr y bydd sesiynau'r gynhadledd a'r arddangosfeydd rydym yn eu cynnal yn ysgogi trafodaethau cynhyrchiol, ymchwil yn y dyfodol ac arloesi ym maes addysgu ymhlith y gymuned gymdeithasol-gyfreithiol ledled y byd."

Roedd pedwar diwrnod Terfysgoedd Caerdydd ym mis Mehefin 1919 yn cynnwys grwpiau o gyn-filwyr, trigolion a milwyr yn ymosod ar forwyr Yemeni, Somalïaidd a Charibïaidd o flaen torfeydd. Digwyddodd hyn saith mis ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y byd yr oeddent wedi'i adael ar ôl wedi newid yn sylweddol yn ystod eu habsenoldeb ac roeddent bellach yn bobl wahanol iawn o gymharu â chyn iddynt ymrestru yn y gwasanaethau arfog.

Mae'r deunydd archif, sy'n cynnwys llythyrau, ffurflenni cyfrifiad, a ffotograffau yn dangos bywydau a phryderon preswylwyr Bae Tiger, yn ogystal â barn yr heddlu, y Swyddfa Gartref ac effaith a gafodd y terfysgoedd ar gymunedau yn y Caribî.

Dywedodd Iqbal Singh, o'r Archifau Cenedlaethol: “Rydym yn falch o fod yn rhan o’r gynhadledd ryngwladol hon gan fod hyn yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw at gyfoeth ein casgliad i gynulleidfa eang ac amrywiol. Mae cydweithrediadau fel y rhain yn ganolog i'r hyn a wnawn yn y Tîm Allgymorth yn yr Archifau Cenedlaethol. Mae'r cofnodion rydym yn canolbwyntio arnynt yn y cyflwyniad hwn yn rhoi darlun byw iawn o'r hyn a ddigwyddodd yng Nghaerdydd ym 1919 ac wedi hynny, gan ddangos y gall archifau fod yn ddiddorol i bawb gan eu bod yn ymwneud â phawb - y gorffennol, y presennol a'r dyfodol."

Pan oedd yn serennu yn sioe Show Boat yn y West End yn 1927, fe wnaeth Paul Robeson, canwr ac ymgyrchydd dros hawliau sifil, gwrdd â grŵp o lowyr o Dde Cymru a oedd wedi cychwyn ar orymdaith newyn heriol i Lundain i dynnu sylw at eu sefyllfa.

Yn y blynyddoedd ar ôl iddynt gwrdd, bu’n gweithio i roi cyhoeddusrwydd i'r amodau yr oedd glowyr Cymru yn gweithio ac yn byw ynddynt, gan gynnal perfformiadau ledled y wlad i’w cefnogi. Mewn un cyngerdd ym 1938, talodd deyrnged i 33 o ddynion o Gymru a fu farw yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen o flaen torf o 7,000 o lowyr.

Mae'r casgliad sydd gan lyfrgell Glowyr De Cymru yn arddangos lluniau, darnau o bapurau newyddion ac atgofion personol a gasglwyd gan Ymddiriedolaeth Paul Robeson Cymru a Llyfrgell Glowyr De Cymru.

Nod yr SLSA yw hyrwyddo addysg a dysgu ac yn benodol hyrwyddo ymchwil, addysgu a lledaenu gwybodaeth ym maes astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol. Cynhelir y gynhadledd flynyddol bob blwyddyn gan brifysgol wahanol yn y DU.

Hoffai trefnwyr y gynhadledd ddiolch i Rhian Diggins o Archifau Morgannwg, Sara Huws o Gasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd, a Sian Williams o Lyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe am eu cymorth.

Y llynedd, dathlodd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth hanner canmlwyddiant o addysgu'r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon