Ewch i’r prif gynnwys

Dwy wobr am orchudd matres sy’n synhwyro wlserau pwysau

30 Mawrth 2021

Luthfun Nessa and Anna McGovern
Luthfun Nessa and Anna McGovern

Mae myfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd a greodd orchudd matres sy'n synhwyro wlserau pwysau, wedi ennill dwy brif wobr arloesedd sydd â chyfanswm o £40,500 mewn dau ddiwrnod yn unig.

Ymunodd Luthfun Nessa, Ysgol Meddygaeth Caerdydd, â gwyddonydd data o Brifysgol Harvard, Anna McGovern, i greu CalidiScope - gorchudd matres sy'n integreiddio synwyryddion newydd a dysgu peiriannol i leihau nifer yr achosion o wlserau pwysau.

Yn gyntaf, curodd Luthfun ac Anna bedwar arall yn y rownd derfynol i gipio'r wobr o £10,000 yng Ngwobrau Arloesedd Iechyd blynyddol y Sefydliad Arloesedd Iechyd Byd-eang (IGHI).

Yna, ddeuddydd yn ddiweddarach, enillodd CalidiScope Her Catalydd Mentro Imperial Enterprise Lab, gan ennill £30,000 ynghyd â gwobr gynulleidfa o £500.

"Mae'r cyfan yn teimlo'n eithaf swreal a dyw i ddim yn credu'r peth eto. Rydyn ni'n dwy'n hynod o gyffrous am yr hyn a ddaw yn y dyfodol" meddai Luthfun ac Anna.

“Doedden ni byth yn disgwyl ennill un, heb sôn am ddwy. “Bydd cronfeydd y gwobrau'n ein helpu’n aruthrol gyda’r ymchwil a datblygu o adeiladu ein dyfais maint llawn, sy’n gweithio trwy fesur marciwr llid, gan ganiatáu i wlserau pwysau gael eu canfod yn gynnar. “A bydd yr arian yn ein galluogi i ddechrau ein profion clinigol a chyflymu ein dilyniant. Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych ac rydym yn hynod ddiolchgar.”

Mae wlserau pwysau yn anafiadau sy'n digwydd i'r croen a'r meinwe gwaelodol. Gan amlaf, mae’r rhain yn cael eu hachosi gan wasgedd parhaus, gallan nhw rwystro'r cyflenwad gwaed i ffwrdd ac yn aml effeithio ar bobl sydd wedi'u cyfyngu i wely neu mewn cadair olwyn am gyfnodau hir. Amcangyfrifir eu bod yn effeithio ar 4-10% o'r holl bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yn y DU ac yn golygu cynnydd o ddwy i bedair gwaith yn y risg o farwolaeth ymhlith pobl hŷn mewn unedau gofal dwys.

Dywedodd yr Athro Ian Weeks, Rhag Is-ganghellor Coleg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein boddau â Luthfun, Anna a CalidiScope. Mae Caerdydd yn cymryd agwedd ragweithiol tuag at arloesi clinigol, gan weithio'n agos gyda'r GIG, staff a myfyrwyr i ddatblygu syniadau newydd. Gellir atal wlserau pwysau, gellir eu trin ac ni ddylen nhw fyth ddigwydd. Bydd gorchudd matres CalidiScope yn helpu i ragfynegi wlserau cyn iddynt ddatblygu, monitro symudiadau cleifion ac awtomeiddio dogfennaeth.”

Mae CalidiScope yn gobeithio gwella'r strategaeth atal yn sylweddol ar gyfer cleifion sydd mewn perygl o ddatblygu wlserau pwysau trwy helpu nyrsys i bersonoli gofal cleifion. Bydd eu technoleg yn eu galluogi i gael achosion defnydd pellach ar gyfer canfod niwmonia, sepsis a monitro cwsg yn gynnar, ac maent yn gyffrous i'w harchwilio yn y dyfodol.

Pressure ulcers are injuries that happen to skin and underlying tissue. Most often caused by prolonged pressure, they can cut off the blood supply and often affect people confined to a bed or in a wheelchair for long periods. They are estimated to affect 4-10% of all people admitted to hospital in the UK and mean a two-to-four-fold increase in the risk of death in older people in intensive care units.

Professor Ian Weeks, Pro-Vice Chancellor for Cardiff University’s College of Biomedical and Life Sciences said: “We are absolutely delighted for Luthfun, Anna and CalidiScope. Cardiff takes a proactive approach to clinical innovation, working closely with the NHS, staff and students to develop new ideas. Pressure sores are preventable, treatable and should never happen. The CalidiScope mattress topper will help to predict ulcers before they develop, monitor patient movement and automate documentation.”

CalidiScope hopes to significantly improve the prevention strategy for patients at risk for developing a pressure ulcer by helping nurses to personalise patient care. Their technology will enable them to have further use cases for the early detection of pneumonia, sepsis and sleep monitoring which they are excited to explore in the future.

Rhannu’r stori hon