Ewch i’r prif gynnwys

Trin asthma

21 Ebrill 2016

Asthma

Mae gwyddonwyr wedi gwneud darganfyddiad a allai arwain at well triniaeth ar gyfer dioddefwyr asthma.

Maent wedi canfod y gall rhwystro moleciwl signalau penodol liniaru symptomau megis cynhyrchu mwcws, chwyddo (edema) a darwasgiad y llwybr anadlu yn yr ysgyfaint.

Y gred yw y gall gwaith yr astudiaeth ryngwladol, o dan arweiniad Dr Stephan Caucheteux, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, helpu dioddefwyr asthma ledled y byd, yn y pen draw.

Mae oddeutu 5.4m o bobl yn y DU yn cael triniaeth ar gyfer asthma ar hyn o bryd, gan gynnwys dros filiwn o blant.

Mae'r adwaith imiwnedd alergaidd, sy'n ysgogi symptomau asthma, yn broses gymhleth, sy'n dechrau wrth i fathau arbennig o gelloedd gwyn y gwaed orweithio, sef celloedd T math 2 sy'n helpu alergenau'n benodol.

"Drwy ychwanegu moleciwl signalau, Interleukin 1 (IL-1) gan ddefnyddio model arbrofol o asthma alergaidd, daeth i'r amlwg i ni y byddai'r symptomau'n gwaethygu'n sylweddol," eglurodd Dr Caucheteux.

"Felly, drwy rwystro'r corff rhag cynhyrchu IL-1, gallem leddfu symptomau, fel mwcws, chwyddo a darwasgiad."

Roedd y gwaith ymchwil, a gyhoeddwyd yn The Journal of Allergy and Clinical Immunology, hefyd yn cynnwys cydweithwyr yn Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau: Doctoriaid Jane Hu-Li, Liying Guo, Michelle Crank, Nisan Bhattacharyya a Michael Collins.

Cyfarwyddwyd y prosiect ymchwil hwn gan y diweddar William E Paul, Pennaeth Labordy Imiwnoleg y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Alergedd a Chlefydau Heintus.

Dywedodd Dr Jeff Zhu, Pennaeth yr Uned Imiwnoreoleiddiad Cellog a Moleciwlaidd yn Labordy Imiwnoleg y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Alergedd a Chlefydau Heintus: "Mae canfod bod IL-1 yn rheoleiddio'r cydbwysedd rhwng celloedd Th2 llidiol a gwrthlidiol wedi gwella ein gwybodaeth sylfaenol am fioleg celloedd T yn sylweddol. Mae hefyd wedi darparu strategaeth newydd ac effeithiol, o bosibl, i drin asthma."

Ariannwyd yr ymchwil gan raglen ymchwil mewnfurol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Alergedd a Chlefydau Heintus.