Ewch i’r prif gynnwys

Mae astudiaeth newydd yn cyflwyno anghydraddoldebau clir o ran disgwyliad oes ledled Cymru

24 Mawrth 2021

Awgrymodd ymchwil newydd fod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhannau mwyaf a lleiaf difreintiedig o Gymru wedi cynyddu yn y blynyddoedd cyn pandemig COVID-19, yn enwedig i fenywod.

Gwnaeth yr astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) ystyried data arferol ar farwolaethau mewn perthynas ag oedran, rhyw a mynegai amddifadedd Cymru, er mwyn archwilio tueddiadau rhwng 2002 a 2018.

Nododd bod menywod sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn byw am tua chwe blynedd yn llai (disgwyliad oes cyffredinol o 79 mlynedd) na'r rhai hynny sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (85 mlynedd). O ran y dynion, roedd bwlch o saith mlynedd rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig (74 yn erbyn 81 mlynedd).

Yn ôl yr astudiaeth, roedd gostyngiad “pryderus” yn nisgwyliad oes dynion a menywod yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ystod y blynyddoedd ar ôl i bolisïau llymder gael eu cyflwyno ledled y DU yn 2010.

Yn ôl yr ymchwilwyr, wrth i'r wlad adfer ar ôl y pandemig ac wrth i wasanaethau barhau, bydd eu canfyddiadau'n hanfodol er mwyn helpu i lywio polisïau iechyd a chyhoeddus.

Dywedodd y prif awdur, Dr Jonny Currie, meddyg gofal sylfaenol ac iechyd cyhoeddus a arweiniodd y dadansoddiad gydag Is-adran Meddygaeth Boblogaeth y Brifysgol: “Mae pandemig COVID-19 yng Nghymru wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau hanesyddol sylweddol mewn iechyd rhwng grwpiau cymdeithasol – mae ein hastudiaeth yn dangos, hyd yn oed yn y degawd cyn COVID-19, roedd y bwlch yn ehangu mewn disgwyliad oes rhwng pobl mwyaf a lleiaf difreintiedig ein cymdeithas.

“Mae ein dadansoddiad yn tynnu sylw at feysydd hanfodol sydd angen ystyried gweithredu arnynt wrth i Gymru adfer ar ôl y pandemig – er mwyn creu cymdeithas decach i’n poblogaeth ac un sy’n gallu gwrthsefyll unrhyw bandemig yn y dyfodol.”

Y canfyddiadau allweddol, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn 'Public Health', oedd:

  • Cynyddodd disgwyliad oes adeg geni menywod yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig 1.2 mlynedd rhwng 2002-4 a 2016-18 ond yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig y cynnydd oedd 2.53 mlynedd;
  • Ar gyfer dynion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, cynyddodd disgwyliad oes adeg geni 1.97 mlynedd, ond yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig cynyddodd 3.02 mlynedd;
  • Erbyn 2018, roedd y tueddiadau hynny'n golygu bod menywod yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn byw 6.02 mlynedd yn llai, ar gyfartaledd, na'r menywod hynny yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, tra bod dynion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn byw 7.42 mlynedd yn llai, ar gyfartaledd;
  • Ar gyfer menywod, roedd y bwlch yn y disgwyliad oes yn cael ei yrru gan farwolaethau o glefyd anadlol, canser yr ysgyfaint, cyflyrau cylchredol, marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol a chanserau eraill;
  • I ddynion, roedd y bwlch mewn disgwyliad oes yn cael ei yrru gan farwolaethau o gyflyrau anadlol, clefyd treulio, cyflyrau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol, hunanladdiadau/damweiniau a chyflyrau cylchredol;
  • Er gwaethaf y bwlch sy'n ehangu mewn rhannau o Gymru, cynyddodd y disgwyliad oes cyffredinol rhwng 2002 a 2018.

Dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn PHW: “Mae llawer o amodau yn cyfrannu at y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cymunedau lleiaf a mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn dangos bod rhaid i ni edrych y tu hwnt i esboniadau meddygol syml i'r achosion sylfaenol ac ystyried yr amodau ehangach y mae pobl yn byw ynddynt.

"Os ydym am ail-adeiladu Cymru fwy iach a theg mae angen i ni ailfeddwl sut y gallwn wella iechyd. Mae dyfodol iach yn golygu mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd fel incwm, addysg, tai a gwaith da, yn enwedig ar gyfer y cymunedau hynny sydd dan anfantais, ac mae pandemig COVID-19 wedi effeithio’n anghymesur ar lawer ohonynt.”

Mae'r dadansoddiad yn nodi meysydd allweddol lle gellid cymryd camau gweithredu, megis mynd i'r afael ag ysmygu, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol mwy hygyrch, hyrwyddo diet iach a gweithgarwch corfforol a sicrhau mynediad gwell at wasanaethau iechyd mewn ardaloedd difreintiedig.

Yn fwy eang mae'n awgrymu bod angen cymryd camau gweithredu ar “benderfynyddion sylfaenol tegwch iechyd”, megis ailddosbarthu incwm a chyfleoedd, gwelliannau i amodau byw ac ansawdd aer a pholisïau i atal camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Dywedodd Dr Currie: “Rhaid i unrhyw adferiad ar ôl COVID gydnabod y lefelau sylweddol o anghydraddoldeb yng Nghymru, gan gynnwys y risgiau o’r feirws ei hun, ffactorau economaidd a heriau eraill fel Brexit.

“Wrth i ni adfer o’r cyfnod unigryw hwn yn ein hanes mae angen clir i ystyried – ac yn y pen draw gweithredu ar – achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru fel y gallwn weithio tuag at leihau’r bwlch hwn.”

Mae'r awduron bellach yn gweithio ar ymchwil ddilynol sy'n archwilio rôl gwasanaethau iechyd rheng flaen wrth fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn a chyfraniad ffactorau fel ysmygu, alcohol, ymarfer corff a gordewdra.

Rhannu’r stori hon