Ewch i’r prif gynnwys

Mae pobl ifanc yn poeni am ddal i fyny ar eu hastudiaethau ar ôl y cyfnod clo, yn ôl arolwg

18 Mawrth 2021

Roedd mwy na chwarter o ddisgyblion oed uwchradd yng Nghymru yn treulio tridiau neu lai ar dasgau ysgol yn ystod y cyfnod clo cyntaf, mae ymchwil wedi dangos.

Gofynnodd yr arolwg, a gynhaliwyd gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, i bobl ifanc ym mlynyddoedd saith i 12 am eu profiadau o ddysgu gartref yn ystod yr haf y llynedd, ynghyd â chanolbwyntio ar eu lles meddyliol a’u harferion beunyddiol.
Mae ei ganlyniadau'n dangos bod 28% o bobl ifanc yn treulio tridiau neu lai ar weithgareddau addysg gartref, gyda 47% yn treulio pum diwrnod.

Mae ffigurau hefyd yn datgelu bod mwy na hanner (53%) y plant ym mlwyddyn saith yn poeni am ddal i fyny ar eu hastudiaethau, a gododd i 71% o ddisgyblion blwyddyn 10.
Roedd mwy na chwarter o bobl ifanc a arolygwyd yn poeni a oedd gan eu teulu ddigon o arian i fyw.

Dywedodd Dr Catherine Foster, sydd wedi’i leoli yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD): “Mae ein canfyddiadau yn dangos y pryderon a’r heriau y mae pobl ifanc a’u teuluoedd wedi’u hwynebu ers dechrau COVID-19. Mae'r canlyniadau'n dangos bod plant yn colli eu ffrindiau a'u hathrawon ac y byddant yn croesawu dychwelyd i'r ysgol, ac eto maent hefyd yn poeni am ddiogelwch y rhai o'u cwmpas.

“Roedd bron i dri chwarter o bobl ifanc ym Mlwyddyn 10 a arolygwyd gennym yn poeni am ddal i fyny ar eu hastudiaethau pan ofynnon ni’r cwestiynau y llynedd, pryder a rannwyd gan bron i hanner yn eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd. Felly mae'n hanfodol cefnogi pobl ifanc i baratoi ar gyfer cam nesaf eu haddysg a sicrhau nad yw straen dros golli gwaith yn effeithio ar eu hymgysylltiad â dysgu yn y dyfodol.”

Dywedodd mwyafrif o'r rhai a holwyd eu bod yn gwerthfawrogi eu teulu yn fwy (70%) tra dywedodd 41% fod ganddynt fwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a thraean yn meddwl mwy am o ble y daeth eu bwyd.

Ychwanegodd Dr Foster: “Er bod mwy o werthfawrogiad o deulu a meddwl am ein ffynonellau bwyd yn beth da, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar ba mor anodd fu'r flwyddyn ddiwethaf i bobl ifanc. Mae pryderon a rennir gan y mwyafrif am yr ysgol ac anwyliaid yn golygu y dylai iechyd meddwl a lles fod yn ffocws allweddol wrth symud ymlaen ar gyfer yr holl wasanaethau sy'n ymgysylltu â phobl ifanc.”

Mae canlyniadau'r arolwg, a gymerwyd o Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD 2020, ar gael i'w gweld yma.

Mae WISERD yn aelod o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd (SPARK) - casgliad o grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol blaenllaw sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol trwy weithgaredd ymchwil cydweithredol. Bydd wedi'i chydleoli mewn hwb arloesedd newydd, sbarc, yn hwyrach eleni.

Rhannu’r stori hon