Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr catalysis rhyngwladol i athro o Brifysgol Caerdydd

17 Mawrth 2021

Professor Graham Hutchings
Yr Athro Graham Hutchings

Mae'r Athro Graham Hutchings, Athro Regius yn yr Ysgol Cemeg, wedi ennill Gwobr Michel Boudart 2021 mewn Catalysis Sylfaenol gan Ffederasiwn Ewropeaidd Cymdeithasau Catalysis (EFCATS) a Chymdeithas Catalysis Gogledd America (NACS).

Cyflwynwyd y wobr i'r Athro Hutchings am ei waith 'arloesol' ym maes catalysis aur a chatalysis ocsideiddio dethol.

Yn ôl y sefydliadau gwobrwyo, mae ei brofiadau diwydiannol ac academaidd yn y DU ac ar draws y byd, wedi rhoi persbectif ymchwil i'r Athro Graham Hutchings sy’n ei alluogi i ymgysylltu â phroblemau catalysis cymhleth, eu hastudio â dyfeisgarwch, a chynnig atebion ymarferol trwy ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth sylfaenol.

Cyflwynir Gwobr Michael Boudart bob dwy flynedd i gydnabod ac annog cyfraniadau unigol sy’n egluro’r mecanwaith a’r safleoedd sy'n ymwneud â ffenomenau catalytig. Mae hefyd yn cydnabod ymdrechion i ddatblygu dulliau neu gysyniadau newydd sy'n hybu dealltwriaeth a/neu arfer catalysis heterogenaidd.

Cyflwynir plac i'r Athro Hutchings a bydd yn cyflwyno darlithoedd llawn yng nghyfarfodydd EFCATS a NACS bob dwy flynedd.

Ymhlith ei lwyddiannau niferus, darganfyddiad mwyaf gwerthfawr yr Athro Hutchings yw bod gan y metel gwerthfawr aur allu rhyfeddol i gataleiddio adweithiau'n llawer mwy effeithlon na’r rhai eraill a ddefnyddir mewn diwydiant.

Gellir defnyddio aur yn yr adwaith i gynhyrchu finyl clorid - y prif gynhwysyn yn un o'r plastigau mwyaf cyffredin yn y byd - PVC.

O ganlyniad i waith arloesol yr Athro Hutchings, mae catalydd aur bellach yn cael ei gynhyrchu mewn ffatri bwrpasol yn Tsieina gan y cwmni cemegau byd-eang Johnson Matthey er mwyn cataleiddio cynhyrchu finyl clorid - y tro cyntaf mewn dros 50 o flynyddoedd y cyflwynwyd newid llwyr mewn ffurfiant catalydd i gynhyrchu cemegyn nwyddau.

Wrth gyhoeddi’r wobr, dywedodd y sefydliadau fod cyfraniadau’r Athro Hutchings yn y maes wedi bod yn amrywiol, yn effeithiol ac yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr. Maent hefyd wedi cadw’r Deyrnas Unedig ar flaen y gad ym maes ymchwil catalysis dros y blynyddoedd.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Hutchings: “Anrhydedd yw derbyn y gydnabyddiaeth hon gan sefydliadau mor uchel eu parch. Mae'r wobr yn dyst i'r gwaith gwych ym maes catalysis sy'n cael ei gynnal yn Sefydliad Catalysis Caerdydd, ochr yn ochr â'n partneriaid yn y byd academaidd a diwydiant o bob cwr o'r byd.”

Rhannu’r stori hon