Ewch i’r prif gynnwys

Awydd pobl i weithio gartref wedi cynyddu ers dechrau'r pandemig, yn ôl yr adroddiad

10 March 2021

Woman with short grey hair wearing a yellow cardigan sits at her table looking at a laptop

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd yn rhagweld mai gweithio gartref fydd un o’r prif bethau fydd yn parhau i fod yn gyffredin ar ôl pandemig COVID-19.

Comisiynwyd yr Athro Alan Felstead gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Senedd i lunio adroddiad ar eu hymchwiliad i weithio o bell.

Mae ei ganfyddiadau wedi eu cynnwys yn eu hadroddiad terfynol, sy’n cynnig cyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu ei pholisi gweithio o bell. Y llynedd, gosododd y Llywodraeth darged tymor hir y byddai 30% o weithwyr Cymru yn gweithio gartref neu'n agos at adref yn y dyfodol.

Mae dadansoddiad diweddaraf yr Athro Felstead o ddata Astudiaeth Deall Cymdeithas yng nghyd-destun Covid-19 a gynhaliwyd ledled y DU yn dangos bod yr awydd i weithio gartref wedi cynyddu dros amser. Dywedodd naw o bob deg (88%) gweithiwr fu’n gweithio o gartref ym Mehefin 2020 y byddent yn hoffi parhau i weithio gartref i ryw raddau. Pan ofynnwyd yr un cwestiwn ym mis Medi 2020, cododd y ganran i 93%.

Dywedodd dau o bob pump (41%) o’r rheiny oedd yn gweithio gartref ym mis Mehefin 2020 eu bod yn gallu gwneud cymaint o waith ag yr oeddent yn gallu chwe mis ynghynt a dywedodd mwy na chwarter (29%) eu bod yn gwneud mwy. Mae data Medi 2020 yn awgrymu bod 85% o'r gweithwyr a barhaodd i weithio gartref yr un mor gynhyrchiol, os nad yn fwy cynhyrchiol nag yr oeddent cyn y pandemig.  70% oedd y ffigur cyfatebol ym mis Mehefin 2020.

Mae bron i hanner (46%) y rhai sy’n gweithio gartref drwy’r amser yn credu mai’r rheswm dros y ffaith eu bod yn gwneud mwy o waith yw oherwydd bod llai o bethau yn tarfu arnynt, ac mae tua thri o bob deg (28%) yn nodi mai’r rheswm dros hynny yw eu bod yn osgoi gorfod teithio i’r gwaith ac yn ôl.

Ond mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod gweithiwyr yn ei chael hi’n anodd cydbwyso bywyd cartref a’r gwaith, yn gweithio mwy o oriau nag yr oeddent, ac yn teimlo’n fwy blinedig ac ynysig yn fwy aml.

Mae'r adroddiad yn nodi’r cwymp mewn llygredd aer ers y cynnydd mewn gweithio gartref yn ogystal ag effaith negyddol ar ganol trefi a dinasoedd, gyda llai o bobl yn mynd iddynt.

Dywedodd yr Athro Alan Felstead, sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Bydd y coronafeirws yn cael effaith hirdymor ar y ffordd rydym yn gweithio.  Hyd yn oed pan na fydd unrhyw gyfyngiadau cymdeithasol, go brin y byddwn yn dychwelyd yn llwyr i’r ffordd draddodiadol o weithio mewn swyddfa.  Yn hytrach, mae'r deuddeg mis diwethaf wedi dangos bod pobl yn awyddus i weithio gartref ac mae cyflogwyr wedi gweld y gall gweithio’n hyblyg fod o fudd i fusnes.

“Fodd bynnag, bydd y newidiadau hyn yn her. Bydd angen i ni ailfeddwl ac ailystyried ein canfyddiadau ynghylch y cartref a’r gwaith, natur ein trefi a'n dinasoedd, ac asesu a yw ein seilwaith trafnidiaeth a thelathrebu yn addas i’r diben. Trwy osod targed ar gyfer gweithio o bell a lansio ymchwiliad i'r ffenomen, mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd ar flaen y gad. Mae adroddiad heddiw yn nodi dechrau, ac nid diwedd y broses honno.”

Yng Nghymru, cododd y nifer oedd yn gweithio gartref yn unig o 56,000 o bobl cyn y pandemig, i 485,000 ym mis Ebrill. Gostyngodd i 231,000 ym mis Medi cyn codi i 308,000 tuag at ddiwedd y flwyddyn.

Mae'r potensial ar gyfer gweithio gartref yn llawer is yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU. Mae data’r SYG yn dangos na fyddai mwy na hanner gweithwyr Cymru (56%) yn gallu gweithio gartref hyd yn oed pe bydden nhw a'u cyflogwr eisiau hynny, o'i gymharu â 44% yng Nghanolbarth Lloegr, y rhanbarth gorau ar gyfer cymharu’r sefyllfa â Lloegr.

Mae'r rhai sy'n gweithio gartref yng Nghymru yn llawer mwy tebygol o gael swyddi gwell, wrth fesur lefel y sgiliau sydd ei angen ar gyfer cyflawni’r swydd, a’r tâl maent yn ei dderbyn.  Mae hefyd wedi bod yn fwy amlwg mewn sectorau fel bancio a chyllid, lle mae gan Gymru llawer llai o weithwyr, ac yn lleiaf amlwg mewn sectorau megis gweinyddiaeth gyhoeddus, lle mae gan Gymru fwy na'i chyfran deg o weithwyr.  Ond mae twf gweithio gartref wedi digwydd fwy neu lai yn gyfartal yn ôl rhyw, anabledd ac ethnigrwydd.

Ychwanegodd yr Athro Felstead: “Mae gweithio gartref yn cynnig manteision i’r amgylchedd, busnesau a gweithwyr, ond mae heriau hefyd, yn enwedig i’r rheiny sy’n ei chael hi’n anodd gweithio fel hyn.

“Serch hynny, mae targed Llywodraeth Cymru sef bod '30% o weithwyr Cymru yn gweithio gartref neu'n agos at adref' yn sicr o fewn cyrraedd o ystyried bod cynifer mwy wedi gwneud hynny ar sawl achlysur yn ystod y naw mis diwethaf. Mae angen mwy o eglurder erbyn hyn ynghylch y trefniadau gweithio y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu hannog, sut bydd y targed yn cael ei fonitro, a sut bydd y manteision a’r anfanteision yn cael eu hasesu."

Meddai Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Isadeiledd a Sgiliau: “Nid yw’r swyddfa wedi marw ond mae gweithio o bell yma i aros, ac mae hynny’n cyflwyno risgiau. Mae'r “Arbrawf Mawr o Weithio Gartref” wedi chwalu camdybiaethau ac wedi dangos manteision enfawr i’r amgylchedd. Ond mae goblygiadau pellgyrhaeddol i uchelgais Llywodraeth Cymru bod 30% o weithwyr yn parhau i weithio 'gartref neu'n agos at adref'.

“Y gobaith a’r disgwyliad eang yw y bydd model hybrid iachach o weithio hyblyg yn dod i’r amlwg, ac mai peth da fydd hwn. Fodd bynnag, mae angen llawer o waith gan Lywodraeth Cymru i sicrhau buddion posibl gweithio o bell. Bydd angen iddo fynd i’r afael â risgiau trwy gefnogi cymunedau drwy’r trawsnewid, amddiffyn hawliau’r holl weithwyr, sicrhau bod gan reolwyr y sgiliau cywir i gefnogi gweithio o bell yn iach, ac atal datblygu gweithlu “dwy haen”.

“Mae'n hanfodol, wrth inni wella rhag COVID-19, ein bod yn cael y cydbwysedd iawn i'n cymunedau ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.”

Rhannu’r stori hon