Ewch i’r prif gynnwys

Integreiddio Storfa Data Ymchwil y Brifysgol a gwasanaethau Hawk i gefnogi ymchwilwyr

1 Mawrth 2021

RDS service available on Hawk

Y llynedd lansiodd y Brifysgol wasanaeth storio newydd yn benodol ar gyfer data ymchwil byw sydd bellach ar gael ar Uwchgyfrifiadur Hawk.

Mae Storfa Data Ymchwil yn wasanaeth cymharol newydd a ddarperir gan TG y Brifysgol. Mae'n addas ar gyfer ystod eang o ddosbarthiadau data, gan gynnwys gwybodaeth dosbarth C1 hynod gyfrinachol.  Rhoddir trosolwg byr o'r storfa isod, ond i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, cysylltwch â desg gwasanaeth TG y Brifysgol.

Dyluniwyd y storfa i fod heb un pwynt sengl o fethiant ac mae'n ddatrysiad sydd ar gael yn eang ac yn hygyrch trwy rwydweithiau TG y Brifysgol. Gellir ei osod ar ystod o ryngwynebau gan gynnwys gweithfannau ymchwil a gwasanaeth uwchgyfrifiaduron Hawk. Mae copïau o unrhyw newidiadau i’r data (“cipluniau”) yn cael eu cadw am 20 diwrnod rhag ofn i’r data gael ei golli neu ei lygru.

Mae defnyddwyr Hawk yn gallu cysylltu'n uniongyrchol ac yn ddiogel â'r storfa erbyn hyn. Mae sicrhau bod gwasanaeth y storfa yn hygyrch ar Hawk yn rhan hanfodol o gynnig dull integredig o ymdrin ag e-seilwaith yn y Brifysgol. Mae'n ategu'r rhaniadau storio graddadwy presennol a ariennir gan ymchwilwyr ac sydd ar gael ar gyfer prosiectau Hawk penodol. Mae gosod y storfa ar Hawk yn rhoi cyfleoedd i ymchwilwyr wella ac awtomeiddio prosesau llif gwaith trwy alluogi mynediad integredig, cyflym a dibynadwy i'w data ymchwil byw yn agos at yr adnoddau uwchgyfrifiadurol.

Ar gyfer ymchwilwyr sy'n cael mynediad at eu storfa ar Hawk, cewch hyd i gyfarwyddiadau a manylion ynghylch sut i ofyn am gymorth ar borth Uwchgyfrifiadura Cymru.

Trosolwg o wasanaeth y storfa

Gall staff y brifysgol a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wneud ceisiadau am ofod storio yn y storfa gan ddefnyddio'r Porth Ymchwil.

Mae 1TByte ar gael ar gais ar gyfer pob prosiect ymchwil yn rhan o ddarpariaeth cyfrif y Brifysgol. Yn gyffredinol, bydd tâl ar gyfer ceisiadau sy’n gofyn am fwy na 1TByte, a bydd ceisiadau mwy eto’n cael eu hystyried fesul achos.

Bydd data'n cael ei storio o leiaf trwy gydol oes y prosiect i ategu strategaeth a pholisi'r Brifysgol ar gyfer cadw data ymchwil yn y tymor hwy (sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd).

Rhaid i'r Prif Ymchwilwyr sy'n gwneud cais am ofod storio ddod o Brifysgol Caerdydd, ac yn gweithio ar brosiect cymwys, gweithredol.

Mae mwy o wybodaeth am y storfa ar gael ar fewnrwyd y Brifysgol ar gyfer staff a myfyrwyr.

Rhannu’r stori hon