Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr yn defnyddio dulliau newydd i ymdrin ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar lygredd morol

3 Mawrth 2021

Mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr a sefydliadau'n edrych ar ddull newydd o ymdrin ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar lygredd morol yn Ewrop.

Dan arweiniad gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd gyda chyfraniadau sylweddol gan 7 sefydliad o 4 gwlad Ewropeaidd wahanol, mae'r astudiaeth yn nodi prif ffynonellau llygredd morol yn Ewrop, a sut y gall amodau hinsawdd yn y dyfodol reoli eu pwysigrwydd cymharol.

Mae gweithgareddau dynol wedi effeithio'n gynyddol ar ein cefnforoedd; mae newid yn yr hinsawdd a llygredd morol, fel cemegolion a malurion, ymhlith y pwysau amlycaf sy'n effeithio ar yr amgylcheddau hyn.

Eisoes mae rhai newidiadau hinsoddol sylweddol ar waith, a rhagwelir y bydd yr hinsawdd fyd-eang yn parhau i newid dros y ganrif hon a thu hwnt. Mae modelau hinsawdd yn rhagweld tymheredd yn codi, digwyddiadau tywydd mwy eithafol, newid mewn ceryntau cefnforol, rhew yn toddi, a lefelau'r môr yn codi - y cyfan yn gwaethygu effeithiau niweidiol llygredd morol.

Mae'r ymchwil newydd hon yn defnyddio dull gwyddonol, cymdeithasol ac addysgol i fynd i'r afael ag effaith y newid hinsoddol a ragwelir ar fathau a chyfeintiau llygryddion yn nyfroedd Ewrop, gyda phwyslais ar ardaloedd morwrol cyfyngedig Gogledd Orllewin Ewrop, Môr y Canoldir a'r Moroedd Du. Dyma'r tro cyntaf i ymchwil gymhwyso dulliau gwyddonol ac addysgegol mewn cyd-destun traws-ewropeaidd i addysgu disgyblion ysgol yn fyd-eang.

Bu Dr Tiago Alves a Dr Marie Ekström, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd yn modelu 43 o senarios damweiniau yn defnyddio data meteorolegol ac eigioneg ar gyfer amgylchiadau tymhorol penodol. Defnyddiwyd y senarios damweiniau a data arall i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth addysgegol a chymdeithasol o effeithiau llygredd morol.

Drwy brosiect Sea4All, creodd yr ymchwilwyr hefyd ddeunydd addysgol, gemau ac offer ar-lein i hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol mewn disgyblion 10-14 oed, fel grŵp oedran blaenoriaeth, ac o fewn y gymuned addysgol.

Mae ymwybyddiaeth amgylcheddol gref o effaith a chost llygredd morol yn ateb allweddol i leihau effaith llygredd dynol ar ein cefnforoedd. Gall codi ymwybyddiaeth trwy addysg, yn enwedig wrth ganolbwyntio ar blant, annog newidiadau yn agweddau ac ymddygiadau pobl ifanc a'u hysbrydoli i gymryd camau cadarnhaol tuag at ddatrys yr heriau hyn.

Un o brif nodau'r ymchwil oedd darparu pecyn addysgol cyflawn i'r gymuned addysgu ar lygredd morol, fel y gall athrawon a disgyblion ymchwilio i faterion llygredd morol yn yr ysgol ac yn yr awyr agored mewn ffyrdd rhyngweithiol, creadigol ac arbrofol, gyda chymorth offer addysgu digidol arloesol.

Mae canlyniadau prosiect Sea4All wedi cael eu defnyddio i greu pecynnau e-ddysgu ac e-gemau i athrawon a disgyblion rhwng 10 a 14 oed yn bennaf. Bydd hyn yn sicrhau bod disgyblion, poblogaethau lleol ac ymwelwyr ag ardaloedd arfordirol yn cael eu haddysgu am eu heffaith ar yr amgylcheddau morol ac arfordirol ac yn ymwybodol o'r camau y gallant eu cymryd i atal llygredd pellach, lle bynnag maen nhw'n byw.

Ariannwyd yr ymchwil hon ar y cyd gan Raglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r papur ymchwil ar gael ar-lein: Nature Scientific Reports.

Rhannu’r stori hon