Ewch i’r prif gynnwys

Uned ‘Tirweddau Synergaidd’ MA Dylunio Pensaernïol i gymryd rhan yn Wythnos Cynaliadwyedd

22 Chwefror 2021

Synergetic Landscapes
Synergetic Landscapes

Bydd uned ‘Tirweddau Synergaidd’ MA Dylunio Pensaernïol yn cyfrannu at wythnos Cynaliadwyedd y flwyddyn hon, gyda chyfres o sesiynau am ehangu bioamrywiaeth mewn gerddi.

Eleni, bydd yr Wythnos Cynaliadwyedd yn cael ei chynnal rhwng 1-5 Mawrth a bydd yn wythnos o ddigwyddiadau rhithwyr i staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd roi gwybodaeth a chyngor ymarferol ynghylch hybu cynaliadwyedd gartref ac yn y gwaith.

Yn rhan o raglen o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ynghylch bioamrywiaeth, cynhelir y sesiwn Tirweddau Synergaidd ar 3 Mawrth rhwng 13:30 - 14:00. Yn ystod y digwyddiad, bydd staff academaidd o’r uned yn arddangos ffyrdd ymarferol o hybu bioamrywiaeth yn y gerddi blaen a chefn. Byddant hefyd yn datgelu sut gall pobl gynhyrchu bio-coridorau ynghyd â’u cymdogion drwy brofi’r ap rhyngweithiol a ddatblygwyd yn uned Tirweddau Synergaidd y rhaglen MAAD yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Register now

Mae uned Tirweddau Synergaidd yr MA Dylunio Pensaernïol wedi’i chysylltu’n agos â phrosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd ac wedi bod yn gweithio yng nghymuned leol Grangetown dros y flwyddyn ddiwethaf. Nod yr uned dylunio cydweithredol yw integreiddio amrywiaeth o asiantiaid byw ac anfyw o fewn y gymuned wrth ddylunio amgylchedd ffyniannus gyda phawb ac ar eu cyfer. I ddysgu mwy am waith yr uned yn Grangetown, gweler gwefan Agwedd Systematig at Berfformiad Pensaernïol.

Rhannu’r stori hon