Ewch i’r prif gynnwys

'Mwy o welededd yn un o nifer o gamau pwysig i wella diffyg amrywiaeth'

23 Chwefror 2021

Dayne Beccano

Mae, Dr Dayne Beccano-Kelly, sy'n niwrowyddonydd a anwyd yng Nghaerdydd, yn dechrau yn ei rôl fel arweinydd tîm sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil clefyd Parkinson yng nghanolfan Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd y mis hwn.

Yma, mae'n trafod ei ymchwil – a sut mae'n gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr du mewn gwyddoniaeth…

Yn Hydref 2020 – tua diwedd blwyddyn lle mae amgylchiadau digynsail wedi effeithio arnom i gyd – cefais newyddion i godi fy ysbryd; roeddwn i wedi ennill Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol ym maes Ymchwil ac Arloesedd y DU. Mae hyn yn golygu fy mod wedi dychwelyd i Gaerdydd, y ddinas lle cefais fy ngeni, lle byddaf yn arwain labordy ymchwil am y tro cyntaf.

Mae'r wobr yn fy ngalluogi i sefydlu ymchwiliadau gwyddonol i nodi'r newidiadau cynharaf yng Nghlefyd Parkinson mewn ymdrech i ganfod targedau a allai atal y clefyd cyn i symptomau clinigol ddechrau ymddangos. Byddaf yn defnyddio modelau o glefydau sydd â'r un eneteg â phobl sy'n dueddol o gael y clefyd.  Bydd hyn wir yn caniatáu i mi ganolbwyntio ar gysylltu'r anhwylder â chleifion dynol.

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll efallai, byddaf yn canolbwyntio ar yr un peth sy'n gwneud celloedd yr ymennydd yn arbennig: eu gallu i drosglwyddo a derbyn signalau trydanol-gemegol. Mae'n debygol mai'r arbenigedd hwn yw'r pwynt lle mae'r chwalfa gychwynnol yn digwydd. Felly, bydd fy ngwaith yn ein caniatáu i fanteisio ar yr arwyddion cyntaf o glefyd ac i weithredu'n gritigol pan allwn ymyrryd.

Mae canolfan Sefydliad Ymchwil Dementia (DRI) y DU ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig y lle gorau i wneud hyn, gyda gwyddonwyr a chyfleusterau o'r radd flaenaf a fydd yn ein caniatáu i drosglwyddo ymchwil o’r fainc i erchwyn y gwely (fel canolfan ymchwil delweddu'r ymennydd y Brifysgol, CUBRIC).

Mae cenhadaeth DRI y DU i nodi targedau ymyrraeth gynnar mewn niwroddirywiad drwy ymchwil arloesol a chydweithredol, yn adlewyrchu fy nghynlluniau a'm delfrydau fy hun yn berffaith.

Fodd bynnag, fel unigolyn du, mae'r ffaith fy mod wedi cael fy mhenodi fel arweinydd grŵp ym maes ymchwil gwyddonol yn y DU yn anghysondeb ystadegol.

Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn nodi mai dim ond 1% o athrawon prifysgolion yn y DU sy'n unigolion â hunaniaeth ddu. Er nad ydw i wedi cyrraedd lefel athro eto, rwy'n camu i mewn i fyd sy'n amddifad o amrywiaeth.

Gan siarad o fy mhrofiad fy hun, rwyf wedi cael llawer o fentoriaid ardderchog sydd wedi cymryd diddordeb gwirioneddol yn fy natblygiad. Fodd bynnag, prin wyf wedi gweld gwyddonwyr du mewn swyddi cyfadran a/neu arweinydd grŵp yn yr adrannau rwyf wedi gweithio ynddynt o gwmpas y DU hyd yn hyn. Gall y diffyg gwelededd hwn fod yn dorcalonnus a gall arwain at hunanamheuaeth, yn ogystal â phobl eraill yn cwestiynu dilysrwydd eich presenoldeb. Am y rheswm hwn, mae gwella gwelededd yn un o nifer o gamau pwysig i wella'r diffyg amrywiaeth hwn mewn swyddi arwain academaidd.

Cam pwysig arall i newid y naratif hwn yw cydnabod ymdrechion fel y gwnaed gyda'r Wobr i Ddarpar Ffisiolegydd Du. Wedi'i sefydlu gan y Gymdeithas Ffisiolegol, yn ogystal â chydweithwyr presennol ac yn y gorffennol (a gyda chefnogaeth aruthrol ganddynt), nod y wobr yw codi ymwybyddiaeth ymhlith plant ysgol o holl gyfraniadau gwyddonwyr du ym maes ffisioleg ac ymchwil academaidd.

Mae annog plant i ddarllen ac ymchwilio i'r pwnc hwn a chydnabod hanes llewyrchus gwyddonwyr du, ac ystyried eu hunain o safbwynt ymchwilydd yn y dyfodol, yn hanfodol i'w hannog i ystyried gyrfa academaidd. Gobeithio y bydd cyflwyno'r syniad o ymchwil academaidd fel llwybr gyrfa hyfyw yn ifanc yn cyflwyno'r syniad yn ddigon cynnar gan ddechrau effeithio ar amrywiaeth yn y dyfodol.

Nid wyf yn proffesu bod gen i'r atebion i gyd, ac ni ddylwn i – rhaid i'r mwyafrif wneud newidiadau i'r system, nid y lleiafrif.
Y cyfan y gallaf i ei wneud yw helpu eraill i ddeall y materion, a gadael i bobl eraill wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain yn y maes hwn. Y ffordd orau o wneud hyn, yn fy marn i, yw bod yn weladwy a dangos ei bod yn bosibl.

Rhannu’r stori hon