Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth ROCS yn dangos llai o waedu mewn tiwmorau sy'n cael eu trin â radiotherapi

22 Chwefror 2021

Scientist supporting cancer research.

Astudiaeth ROCS yn dangos llai o waedu mewn tiwmorau sy'n cael eu trin â radiotherapi

Mae'r astudiaeth hefyd wedi dangos nad yw cyfuno radiotherapi â gosod stent yn y boblogaeth fregus hon yn gwella llyncu ymhellach, a bod y driniaeth yn feichus ac o'r herwydd, mae'n well ei hosgoi i'r mwyafrif o gleifion yn y cyd-destun hwn.

Meddai Dr Dougal Adamson, “Fe wnaeth radiotherapi lliniarol leihau’r risg o waedu a dyma’r darpar astudiaeth gyntaf y gwyddom amdani sydd wedi dangos tystiolaeth gadarn o effaith radiotherapi ar risg gwaedu tiwmor. Fodd bynnag, dylid cadw’r driniaeth hon ar gyfer y lleiafrif sy’n wynebu’r risg uchaf o waedu er mwyn lleihau'r baich a sicrhau'r buddion gorau posibl.”

Poblogaeth cleifion astudiaeth ROCS oedd y rheiny â chanser datblygedig yn yr oesoffagws (llwnc) a chyfradd goroesi o 3-5 mis ar gyfartaledd, gan eu gwneud yn grŵp bregus. Mae anawsterau sylweddol gyda llyncu yn cael effaith enfawr ar ansawdd bywyd. Yn y DU, stent sy’n hunan-ehangu a roddir yn y llwnc yw'r ffordd gyflymaf o wella llyncu. Fodd bynnag, mae problemau'n aml yn codi ar ôl 10-12 wythnos wrth i'r tiwmor dyfu i mewn i'r stent neu o'i gwmpas ac mae'r cleifion hyn yn gorfod cael eu trin yn yr ysbyty gan fod yn destun ymyriadau pellach wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu hoes.

Y cwestiwn ers cryn amser fu beth arall y gellid ei gyfuno â stent a chynnal swyddogaethau llyncu am gyfnod hirach heb faich ychwanegol sylweddol ar gleifion? Gellir cynnig cemotherapi lliniarol i gleifion, sy'n aml ddim yn cael ei dderbyn yn dda yn ogystal a radiotherapi, ond mae'r dystiolaeth dros hyn yn wael. Felly, roedd astudiaeth ROCS yn ymchwilio p’un a fyddai cyfuniad o radiotherapi lliniarol (rheoli symptomau) a gosod stent yn gwella llyncu fel y nodir gan gleifion, wrth edrych yn ofalus hefyd ar ansawdd bywyd a baich y driniaeth.

Meddai Dr Anthony Byrne, “Mae ein hastudiaeth yn dangos pa mor bwysig yw cynnwys cleifion yng nghyfnod lliniarol eu salwch - sydd â chlefyd datblygedig - mewn treialon clinigol: anaml iawn maent yn ganolbwynt astudiaethau ar raddfa fawr er gwaethaf pwysigrwydd canlyniadau o'r fath i'w gofal a’u hansawdd bywyd. Mae'r cleifion hyn a'u teuluoedd yn cael anhawster ag effeithiau seico-gymdeithasol niferus o ran colli’r gallu i fwyta a cholli maeth yn ogystal â'r symptomau nodweddiadol - nad yw'r stent yn mynd i'r afael â nhw. Mae ganddyn nhw nifer o anghenion na ellir eu gweld ac felly na chânt eu diwallu sy'n gofyn am sbarduno triniaeth liniarol amlddisgyblaethol yn gynharach.”

Noddwyd y treial, a oedd yn cynnwys 220 o gleifion o 23 ysbyty ledled y DU, gan Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Velindre a chafodd ei gydlynu gan y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd ei arwain ar y cyd gan Dr Douglas Adamson o Ysbyty Ninewells, Dundee a Dr Anthony Byrne, Ymgynghorydd Meddygaeth Liniarol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ymchwil Marie Curie. Ariannwyd y prosiect gan Raglen Asesu Technoleg Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).

Diwedd

Gwybodaeth am yr NIHR

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yw noddwr mwyaf y genedl o ran ymchwil iechyd a gofal. Mae'r NIHR yn:

  • Ariannu, cefnogi ac yn cynnig ymchwil o ansawdd uchel sydd o fudd i’r GIG, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol
  • Ymgysylltu ac ymwneud â chleifion, gofalwyr a’r cyhoedd er mwyn gwella ehangder, ansawdd ac effaith ymchwil
  • Denu, hyfforddi a chefnogi’r ymchwilwyr gorau i fynd i’r afael â heriau iechyd a gofal cymhleth y dyfodol
  • Buddsoddi mewn seilwaith o’r radd flaenaf a gweithlu medrus i drosi darganfyddiadau yn driniaethau ac yn wasanaethau gwell.
  • Partneriaid gydag arianwyr, elusennau a diwydiant cyhoeddus eraill i fanteisio i’r eithaf ar werth ymchwil i gleifion a’r economi

Sefydlwyd yr NIHR yn 2006 i wella iechyd a chyfoeth y wlad drwy ymchwil, a chaiff ei ariannu gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn ychwanegol at ei rôl genedlaethol, mae'r NIHR yn cefnogi ymchwil iechyd cymhwysol er budd uniongyrchol a sylfaenol pobl mewn gwledydd incwm isel a chanolig, gan ddefnyddio cymorth y DU gan lywodraeth y DU.

Mae’r gwaith hwn yn defnyddio data a ddarperir gan gleifion ac a gesglir gan y GIG fel rhan o’u gofal a’u cymorth ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb fynediad at y data hwn. Mae’r NIHR yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi rôl data cleifion, wedi’i gyrchu a’i storio’n ddiogel, i fod yn sail ac i arwain gwelliannau mewn ymchwil a gofal: www.nihr.ac.uk/patientdata

[1] Canolfannau Cyfrannu:

Ysbyty Ninewells, GIG Tayside Dundee

Ysbyty Brenhinol, Ysbytai Athrofaol Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Bryste

Weston Park, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Addysgu Sheffield

Ysbyty Athrofaol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Ysbyty Athrofaol Coventry, Ymddiriedolaeth GIG Coventry a Swydd Warwick

Ysbyty Athrofaol Llandough, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Ysbyty Musgrove Park, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Taunton a Gwlad yr Haf

Ymddiriedolaeth GIG Sefydliadol Ysbytai Athroafol Basildon a Thurrock

Ysbyty'r Santes Fair, Gofal Iechyd Coleg Imperial

Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Nottingham

Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Ysbyty Weston Super Mare, Ymddiriedolaeth Iechyd Ardal Weston

Ysbyty Worthing, Ymddiriedolaeth Sefydliadol y GIG Ysbytai Gorllewin Sussex

Conquest Hospital Hastings, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Dwyrain Sussex

Ysbyty Brenhinol Sussex Brighton, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Dwyrain Sussex

Ymddiriedolaeth Sefydliadol Ysbyty Prifysgol Southampton

Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty George Eliot

Ysbyty Caint a Chaergaint, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Dwyrain Kent

Ysbyty King's Mill, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Coedwig Sherwood

Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Doncaster a Bassetlaw

Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Ysbyty Prifysgol Southend

Ysbyty Brenhinol Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Ysbyty James Cook, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai South Tees

[2] Ymchwil Canser y DU. Canser yr Oesoffagws. Ar gael trwy: https://www.cancerresearchuk.org/health-professional/cancer-statistics/statistics-by-cancer-type/oesophageal-cancer

Rhannu’r stori hon

Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.