Ewch i’r prif gynnwys

Dadansoddiad diweddaraf ar gyllideb Llywodraeth Cymru

4 Chwefror 2021

Cathays Park Crown Building

Mae bellach gan Lywodraeth Cymru tua £655m ar ôl i’w ddyrannu y flwyddyn ariannol hon, yn ôl adroddiad diweddaraf tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Yn eu hadroddiad sy’n dadansoddi sefyllfa cyllidol Llywodraeth Cymru eleni a’r Gyllideb Ddrafft y flwyddyn nesaf, mae’r ymchwilwyr yn nodi:

  • Mae Llywodraeth y DG bellach wedi gwarantu cyfanswm o £5.2bn i Gymru yn 2020-21 oherwydd Covid-19, fydd yn gostwng i £766m y flwyddyn nesaf.
  • Yn dilyn dyraniadau mawr i gymorth busnes dros y misoedd diwethaf, mae tua £655m i’w ymrwymo o hyd yn 2020-21, tra bod y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2021-22 yn gadael £689m o gyllid Covid-19 heb ei ddyrannu.
  • Y flwyddyn nesaf, bydd y gyllideb graidd ar gyfer gwariant o ddydd-i-ddydd (heb gynnwys cyllid Covid-19) yn tyfu i £17.1bn, o £16.2bn yn 2020-21. Mae hyn yn golygu bydd gwariant wedi tyfu uwch ben lefelau 2010-11 am y tro cyntaf – ond bydd yn parhau 3% yn is o’i gymharu a lefelau cyn-lymder ar sail ‘fesul pen’.
  • Bydd gwariant craidd y GIG (ac eithro gwariant Covid-19) yn cynyddu o 4.2% y flwyddyn nesaf, gan awgrymu twf o 2.1% y flwyddyn mewn termau real rhwng 2019-20 a 2021-22. Mae gwariant y GIG bellach 19% yn uwch na lefelau 2010-11 ac yn cyfrif am ychydig llai na 50% o gyllideb dydd-i-ddydd Cymru (i fyny o 42% yn 2013-14).
  • Mae’r setliad ar gyfer Awdurdodau Lleol yn cynnwys cynnydd o £176m (3.8%) dros lefel 2020-21, er bod hyn yn parhau i fod 8.7% yn is na lefelau 2013-14.
  • Er gwaethaf ergyd o £200m i refeniw Treth Incwm Cymru o’r pandemig, ar ôl ystyried newid yn yr Addasiad Grant Bloc, bydd yr effaith net datganoli trethi ar gyllideb Cymru yn golled o £25m yn 2021-22.

Maent hefyd yn nodi ei bod yn debygol y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer Cymru yn cael ei gyhoeddi yng Nghyllideb y DG ar 3 Mawrth. Ar hyn o bryd, nid yw’r cyllid Covid-19 sydd ar gael yn debygol o fod yn ddigonol i ddelio â phwysau’r pandemig a’r adferiad ar y GIG, llywodraethau lleol, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Rhannu’r stori hon