Fideo: Y Cwnsler Cyffredinol yn trafod Deddf Marchnad Fewnol a dyfodol y DG
22 Ionawr 2021
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2490828/Jeremy-Miles-Pierhead-Event.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Traddododd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles AS, araith ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yr wythnos hon, gan amlinellu achos cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn erbyn y Ddeddf Marchnad Fewnol.
Mewn sesiwn Holi ac Ateb diddorol, trafodwyd dyfodol cyfansoddiad y DG a lle Cymru ynddo.