Ewch i’r prif gynnwys

Cwnsler Cyffredinol i amlinellu'r her gyfreithiol dros bwerau datganoledig

15 Ionawr 2021

Bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles AS, yn cynnig diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i amddiffyn pwerau datganoledig Cymru mewn araith ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yr wythnos nesaf.

Disgwylir i Mr Miles amlinellu ei gynlluniau i gymryd camau cyfreithiol dros Ddeddf Marchnad Fewnol y DG, deddfwriaeth sydd wedi cael ei gwrthod gan Senedd Cymru ac sydd, yn ôl arbenigwyr academaidd, yn tanseilio ac yn cyfyngu ar bwerau datganoledig presennol.

Yn ystod mis Rhagfyr, fe wnaeth Mr Miles hysbysu Llywodraeth y DG yn ffurfiol ei fod yn barod i gymryd camau cyfreithiol er mwyn atal y Ddeddf rhag diystyru cymwyseddau datganoledig. Bydd hefyd yn ystyried yr heriau cyfansoddiadol ehangach y mae’r Deyrnas Gyfunol yn debygol i’w hwynebu dros y blynyddoedd nesaf a sut mae'n rhaid i Gymru fod yn barod i ymateb.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru:

"Roedd pasio Deddf y Farchnad Fewnol yn foment pwysfawr yn hanes cyfansoddiadol yn DG, yn enwedig gan fod Seneddau Cymru a’r Alban wedi gwrthod cydsyniad deddfwriaethol i fesur sydd, yn ôl arbenigwyr, yn ail-ganoli grym mewn ffyrdd a all brofi’n bellgyrhaeddol. Yn y cyd-destun yma, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yn falch o gael croesawu’r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles AS, i wneud datganiad o bwys."

Bydd yr araith ar-lein am 11am Ionawr 21ain yn agored i bawb, ac mae modd cofrestru trwy ddilyn y ddolen hon.

Rhannu’r stori hon