Ewch i’r prif gynnwys

Grant Clodfawr i’r Athro Aseem Inam ar gyfer Ymchwil Arweiniol ar Drefoli

11 Ionawr 2021

The public realm weaves the city together through interconnected spatial networks of public spaces that interface with the private realm, as here in Mumbai, India
The public realm weaves the city together through interconnected spatial networks of public spaces that interface with the private realm, as here in Mumbai, India

Dyfarnwyd Grant clodfawr Cynllun Rhwydweithio Ymchwil Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn y DU i'r Athro Aseem Inam, Cadeirydd Dylunio Trefol Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd, i archwilio ffyrdd o ddylunio dinasoedd mewn ffyrdd radical o ddemocrataidd.

Bydd yr Athro Inam yn cydweithredu ag ysgolheigion o fri ym maes trefoli o Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Sheffield yn y DU, Prifysgol Texas yn Austin yn yr Unol Daleithiau, Prifysgol Newcastle yn Awstralia, a Sefydliad Aneddiadau Dynol India yn India.  Bydd y tîm hefyd yn gweithio gyda sefydliadau trefol a llawr gwlad blaengar sy'n dylunio'r parth cyhoeddus mewn ffyrdd hynod o arloesol yn Bengaluru, Cali, Cape Town, Jakarta, Phnom Penh, a Sao Paulo.

Bydd y Rhwydwaith Ymchwil "Dylunio Parthau Cyhoeddus/Designing Publics" a ariennir gan AHRC yn mynd i'r afael â'r diffyg dealltwriaeth systematig ynghylch sut mae parthau cyhoeddus yn cael eu dylunio a hynny trwy brosesau cynhyrchu gofodol yn y parth cyhoeddus, yn arbennig trwy ddefnyddio strategaethau anffurfiol dinasoedd y de byd-eang.  Mae dinasoedd ymhlith creadigaethau mwyaf dynoliaeth, a gellir dadlau mai'r parth cyhoeddus yw eu hagwedd fwyaf arwyddocaol.  Agwedd rymusaf y parth cyhoeddus yw ei allu i gynhyrchu [h.y. "dylunio"] parthau cyhoeddus yn fwriadol ac yn greadigol trwy'r broses o'i wneud [h.y. "cynhyrchu"].

Bydd y Rhwydwaith Ymchwil yn tynnu mewnwelediadau o ddadansoddiadau astudiaethau achos o sawl math o strategaethau anffurfiol ar gyfer cynhyrchu'r parth cyhoeddus yn ninasoedd y de byd-eang, trwy roi sylw manwl i fanylion cyd-destunau gwahanol a phatrymau cyffredinol sy'n dod i'r amlwg ar eu traws.  Yr hyn y mae hyn yn ei awgrymu ar gyfer dylunio dyfodol y parth cyhoeddus yw bod llawer mwy o le mewn gwirionedd i greadigrwydd nag y gallwn ddychmygu sy’n bosibl ar hyn o bryd, sy'n codi o'r ffaith bod pob traddodiad cyfredol wedi'i ddyfeisio o'r blaen fel ymateb creadigol i amodau penodol ei gyfnod.

Felly, mae trefolwyr ar draws y sbectrwm - o weithwyr proffesiynol dylunio i ymgyrchwyr artistaidd i ddinasyddion cyffredin - bob amser yn meddu ar y posibilrwydd radical o ddylunio traddodiadau newydd a thrawsnewidiol ar gyfer y parth cyhoeddus, ac yn wir ar gyfer dinasoedd. Dyma'r mathau o ddulliau a allai drawsnewid y ffordd caiff dinasoedd eu dylunio a fydd yn deillio o waith y rhwydwaith.

Rhannu’r stori hon