Ewch i’r prif gynnwys

Edrych ymlaen gyda Llwybrau at Ieithoedd Cymru

7 Ionawr 2021

Er gwaethaf blwyddyn heriol, mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn edrych ymlaen at raglen newydd a bywiog o weithgareddau. Cawsom sgwrs gyda Meleri Jenkins, Cydlynydd y Prosiect i edrych yn ôl ar 2020 a chlywed beth sydd ar y gweill ar gyfer 2021.

Prosiect allgymorth ar draws Cymru yw Llwybrau at Ieithoedd Cymru sy'n hyrwyddo gwelededd, dewisiadau a phroffil ieithoedd mewn ysgolion yng Nghymru.

Fel rheol, mae tîm Llwybrau Cymru yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau ledled Cymru, gan godi proffil ieithoedd ac amrywiaeth ieithyddol mewn ysgolion a chymunedau lleol.

Gan amlaf mae hwn yn waith wyneb yn wyneb ac felly pan ledodd pandemig COVID-19 ar draws y DU, bu’n rhaid i dîm Llwybrau Cymru ailedrych ar drefn eu blwyddyn.

Fel yr esboniodd Meleri, sy'n gweithio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, “Amlygodd y pandemig ein dibyniaeth ar gyflwyno wyneb yn wyneb felly rydym ni wedi treulio’r misoedd diwethaf yn cynllunio a gweld sut y gallwn ni ddefnyddio technoleg ddigidol i gyflwyno ein digwyddiadau a gweithgareddau yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21. Mae pethau’n anodd dros ben i ysgolion ar hyn o bryd, ond fe wyddom y gellir gwneud ein gweithgareddau ar unrhyw adeg os ydyn nhw wedi’u recordio ymlaen llaw a bod modd eu cyflwyno o fewn realiti’r cyfyngiadau cyfredol mewn ysgolion. ”

Watch the new Routes into Languages Cymru video

Gan fod yr ysgolion ar gau gyda'r holl ddysgu'n cael ei gyflwyno ar-lein, gofynnodd Llwybrau Cymru i'w Llysgenhadon Myfyrwyr recordio eu sesiynau a chyfrannu at Gyfres Sgyrsiau Rhithwir yr oedd yn ei rhedeg rhwng Ebrill a Mehefin ar sianel YouTube Llwybrau Cymru. Roedd athrawon yn gallu cyfeirio eu disgyblion at safle Llwybrau Cymru i ategu'r gwersi a ddarparwyd iddyn nhw yn eu hysgolion.

Cofleidio technoleg oedd y cam rhesymegol cyntaf i sicrhau y gallai Llwybrau Cymru barhau i gyflwyno. Mae Microsoft Teams wedi bod yn rhan hollbwysig o'u ffordd newydd o weithio. Cyn y pandemig roedd y tîm yn ei ddefnyddio i gynllunio digwyddiadau yn unig, ond o hyn ymlaen bydd yn cynnal eu Cynllun Llysgenhadon Iaith Disgyblion.

Fel yr eglura Meleri, “Byddwn yn gallu estyn cefnogaeth i ysgolion gyda’r cynllun hwn trwy gydol tymor y gwanwyn a’r haf gyda’r nod o drefnu cynllun Llysgenhadon Iaith Rhithwir cenedlaethol ym mis Gorffennaf. Y gobaith yn y tymor hir yw y bydd technoleg ddigidol yn caniatáu inni ymgysylltu â mwy o ysgolion yng Nghymru a darparu mwy o gefnogaeth nag y mae cyflenwi wyneb yn wyneb wedi'i ganiatáu inni oherwydd ystyriaethau daearyddol, logistaidd a rhyddhau athrawon / disgyblion."

Yn ogystal â mentrau oedd eisoes ar y gweill, bydd tîm Llwybrau Cymru yn cyflwyno dwy fenter yn y flwyddyn newydd i gefnogi cyflwyno cwricwlwm newydd yng Nghymru. Yn y cwricwlwm newydd, y disgwylir y caiff ei gyflwyno yn 2022, ceir pwyslais newydd ar ieithoedd rhyngwladol i bob grŵp oedran ac mae Llwybrau Cymru yn hynod o falch i allu helpu ysgolion gyda'r trawsnewid hwn.

Yn ystod hydref 2021, cyflwynir eu Pecyn Cymorth Cynradd i ddangos sut y gallai ieithoedd rhyngwladol gael eu dysgu ochr yn ochr â'r Gymraeg a Saesneg yn y sector cynradd. Bydd y pecyn yn cynnig yr offer a'r syniadau angenrheidiol i ysgolion allu cyflwyno ieithoedd rhyngwladol i'r grŵp blwyddyn fel y nodir yn y cwricwlwm newydd.

Bydd Llwybrau Cymru hefyd yn adeiladu ar eu menter Archarwyr Ieithoedd Rhyngwladol a lansiwyd yn 2019 ond y bu'n rhaid canslo ei digwyddiadau yn 2020 am resymau amlwg. Roedd disgyblion blwyddyn 4/5 wedi eu dewis gan eu hysgolion i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd i'w cyfoedion. Rhagwelir y bydd digwyddiadau'r Archarwyr Iaith yn cael eu haildrefnu ar gyfer 2021 ac mae Meleri yn obeithiol y ceir canlyniadau cadarnhaol.

“Gobeithio y bydd brwdfrydedd y disgyblion cynradd yn sbarduno diddordeb mewn ieithoedd yn y sector uwchradd a gobeithio y bydd rhai o’r disgyblion hyn yn parhau ar eu taith fel Llysgenhadon Iaith pan fyddan nhw yn yr ysgol uwchradd. Mae cael y cyfle i ddechrau gweithio gyda disgyblion cynradd yn gwneud synnwyr llwyr i ni. Bydd cynnig meddylfryd amlieithog ac amlddiwylliannol i ddysgwyr o oedran ifanc yn eu harfogi â’r offer angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon