Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydoli menywod y dyfodol yng Nghymru

20 Ebrill 2016

Dr Kelly Berube gyda'i gwobr Womenspire
Dr Kelly Berube gyda'i gwobr Womenspire

Mae'r Athro Karen Holford a Dr Kelly Berube wedi cael eu cydnabod yn Seremoni Wobrwyo gyntaf Gwobrau Womenspire, am eu hymrwymiad i gyfle cyfartal ac am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod yng Nghymru.

Enillodd yr Athro Holford, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, y wobr 'Menyw ym myd Addysg' am ei hymdrechion i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd ehangaf ar gael i bawb, i'w galluogi i symud i yrfaoedd cyflogedig llawn boddhad.

Enillodd Dr Kelly Berube, o Ysgol y Biowyddorau, y wobr 'Arloeswr STEM', i gydnabod ei gwaith fel esiampl dda i fenywod a merched, a'i hymrwymiad i hyrwyddo STEM fel dewis gyrfa.

Mae Gwobrau Womenspire yn cydnabod y cyfraniad rhagorol a wneir gan fenywod ar draws Cymru, a'r nod yw ysbrydoli cenedlaethau o fenywod i gyflawni ac i ffynnu yn y dyfodol.

Roedd categorïau’r Gwobrau'n adlewyrchu amrywiaeth eang o weithgareddau, ac yn annog ceisiadau gan fenywod o bob oed a chefndir sy'n falch o'r hyn maen nhw’n ei gyflawni - boed yn eu bywydau preifat neu broffesiynol, neu yn y gymuned ehangach.

Roedd enwebiadau'n agored i sefydliadau a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhwng y rhywiau, a darparu'r gefnogaeth a'r datblygiad sydd ei angen er mwyn i'w cydweithwyr benywaidd ffynnu.

Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni ar 14 Ebrill yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Holford: "Mae'n fraint cael fy nghydnabod ymhlith rhestr o bobl hynod dalentog, sy'n gwneud cymaint i annog ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod yng Nghymru.

"Rwy'n hynod falch bod fy ngwaith ym myd addysg wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr hon. Ond nid yw'r gwaith ar ben. Rhaid i ni i gyd wneud mwy i hyrwyddo cynhwysiant, i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle cyfartal i gyflawni eu potensial mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a thu hwnt."

Dywedodd Dr Kelly Berube: "Mae'n fraint cael fy nghydnabod fel 'Arloeswr STEM' gan Wobrau Womenspire Chwarae Teg 2016. Mae'r wobr hon yn dwyn boddhad aruthrol, o wybod fy mod, drwy fod yn Llysgennad STEM, yn helpu i lunio gwyddonwyr benywaidd y dyfodol.

"Mae'r wobr yn pwysleisio pwysigrwydd modelau rôl benywaidd mewn meysydd STEM, er mwyn rhoi esiampl dda i ferched. Ni allwch orfodi diddordeb yn y proffesiynau STEM, ond gallwch roi cipolwg arnynt i fenywod ifanc, a gweld a fydd rhywbeth yn syrthio i'w le.  Ar y cyfan, mae gan fenywod ym maes STEM ddylanwad rhyfeddol, a gyda'n gilydd, gallwn annog ac 'ysbrydoli' y genhedlaeth nesaf i ddilyn ein hesiampl."

Rhannu’r stori hon