Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd yn ymchwilio i effaith Sgitsoffrenia ar salwch corfforol

3 Rhagfyr 2020

paper

Mae unigolion sydd â sgitsoffrenia mewn mwy o berygl o gael salwch corfforol, sy'n ffactor sylweddol o ran eu disgwyliad oes o 20 mlynedd yn llai na’r cyfartaledd. Ar hyn o bryd, nid yw'n hysbys beth sy'n achosi'r risg gynyddol o salwch corfforol mewn pobl â sgitsoffrenia.

Yn yr astudiaeth hon, bu cydweithwyr yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yr MRC a Chronfa Ddata SAIL ym Mhrifysgol Abertawe yn cysylltu data genetig cysylltiedig ar gyfer 896 o unigolion sy’n dioddef sgitsoffrenia â chofnodion dienw'r GIG.

Mae'r Athro James Walters, Dr Kimberley Kendall a Dr Sophie Legge wedi cyhoeddi eu canfyddiadau yn eu papur 'Impact of Schizophrenia and physical illness: data-linkage study.' 

Nodau'r astudiaeth oedd asesu cyfraddau salwch corfforol yn y rhai â sgitsoffrenia a dod i gasgliad o ran a yw salwch corfforol mewn sgitsoffrenia yn gysylltiedig â thebygolrwydd genetig, trwy gysylltu data genetig o sampl clinigol o unigolion â sgitsoffrenia â chofnodion dienw'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

Roedd y canlyniadau’n dangos bod gan y rhai â sgitsoffrenia gyfraddau uwch o epilepsi, anabledd deallusol, diabetes math 2, anhwylderau cynhenid, clefyd isgemig y galon ac ysmygu.

Ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth sylweddol o gyfraddau uwch o ganlyniadau iechyd corfforol gwael ymhlith cludwyr amrywiolion nifer copïau (CNVs) niwroddatblygiadol prin, ond roedd statws cludwyr CNV yn gysylltiedig â thaldra.

Dywedodd Dr Kendall, "Ni welsom unrhyw dystiolaeth ar gyfer cysylltiad rhwng sgitsoffrenia a chanlyniadau iechyd corfforol. Roedd y diffyg cysylltiad hwn yn aros mewn dadansoddiadau sensitifrwydd a oedd yn cydamrywio o ran difrifoldeb symptomau, diffyg ymateb i gyffuriau gwrthseicotig, amlygiad gwrthseicotig, statws ysmygu a'r araeau genoteipio. Fodd bynnag, nodwyd cysylltiadau sylweddol rhwng diffyg ymateb i gyffuriau gwrthseicotig a diabetes math 2 a rhwng difrifoldeb symptomau ac anabledd deallusol."

Mae'r astudiaeth yn dangos gwerth a photensial cysylltu data genetig o astudiaethau ymchwil a ganfuwyd yn glinigol â chofnodion iechyd dienw, a daeth i'r casgliad nad yw'r risg gynyddol ar gyfer salwch corfforol mewn pobl â sgitsoffrenia yn cael ei hachosi gan tebygolrwydd genetig o etifeddu’r anhwylder.

Ariannwyd yr astudiaeth gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Ymddiriedolaeth Wellcome, ymchwil iechyd meddwl MQ, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

I ddarllen y papur llawn: 'Impact of Schizophrenia and physical illness: data-linkage study.'

Rhannu’r stori hon