Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant i ddau aelod o dîm Ysgrifennu Creadigol

1 Rhagfyr 2020

Mae doniau aelodau o dîm enwog Ysgrifennu Creadigol wedi’u galluogi i gyrraedd rhestr fer Gwobrau Cyfieithu 2020 Cymdeithas yr Awduron.

Mae Richard Gwyn ac Abigail Parry ar restr fer ryngwladol cystadleuaeth Premio Valle Inclán  am gyfieithu yn eu cyfanrwydd i Saesneg destunau Sbaeneg o fri llenyddol a diddordeb cyffredinol.

Mae gwobr flynyddol Valle Inclán (£2,000) am gyfieithu testunau Sbaeneg yn dangos gwaith diweddaraf dau aelod o dîm  Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Ar chwe rhestr fer y gwobrau rhyngwladol eleni, mae 35 o gyfieithiadau ‘symbylol a difyr’ o chwe iaith i’r Saesneg.

Mae Richard Gwyn - bardd, nofelydd, ysgrifwr a chyfieithydd sydd wedi ennill nifer o wobrau - ar restr fer am gyfieithu Impossible Loves gan Darío Jaramillo (Barddoniaeth Carcanet). Athro Ysgrifennu Beirniadol a Chreadigol yw Richard ac mae wedi llunio rhyddiaith megis The Vagabond’s Breakfast (a enillodd Lyfr y Flwyddyn Cymru), The Colour of a Dog Running AwayDeep Hanging Out yn ogystal â barddoniaeth gan gynnwys Walking on Bones, Being in Water, Sad Giraffe CaféStowaway: A Levantine Adventure. At hynny, mae wedi cyfieithu blodeugerdd o fri, The Other Tiger: Recent Poetry from Latin America a dwy gyfrol arall gan feirdd o’r Ariannin, Joaquín O. Giannuzzi a Jorge Fondebrider.

Mae Abigail Parry ar restr fer – ynghyd â’i chyd-gyfieithydd, Serafina Vick – am A Little Body are Many Parts (Bloodaxe Books), cyfrol o waith bardd o Ynys Ciwba, Legna Rodríguez Iglesias. Enillodd y cyfieithiad hwnnw wobr English PEN a chyrraedd rhestr fer cystadleuaeth gyntaf gwobr Derek Walcott, hefyd.

Dyma’r pedwar cyfieithiad arall sydd ar y rhestr fer: Lord of All the Dead (Javier Cercas), Mac and His Problem (Enrique Vila-Matas), Mouthful of Birds (Samanta Schweblin) a The Word of the Speechless (Julio Ramón Ribeyro).

Meddai beirniaid Imogen Choi a James Womack ynglŷn â’r rhestr fer eleni:

“Roedd y beirniadu’n anodd ar bob lefel. Erbyn inni orffen, roedd y rhestr fer yn ymwneud ag amryw arddulliau a mathau o ysgrifennu - straeon byrion a barddoniaeth yn ogystal â nofelau. Mae naws athrist gan lawer o’r cyfieithiadau sydd wedi’u dewis, ond dydyn ni ddim yn siŵr a ddaeth hynny o ganlyniad i chwaeth bersonol y beirniaid, yr oes sydd ohoni neu ryw nodwedd sy’n unigryw i lenyddiaeth Sbaeneg.”

Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Cyfieithu 2020 Cymdeithas yr Awduron yn ystod dathliad ar-lein ar 11eg Chwefror 2021. Noddir Premio Valle Inclán gan ALCS a Chymdeithas yr Awduron.

Rhannu’r stori hon