Ewch i’r prif gynnwys

Cyfweliad â Célia Bourhis

30 Tachwedd 2020

Gofynnon ni i Célia sôn am ei phrofiad.

Ers faint ydych chi wedi bod yn dysgu Tsieinëeg?

Rwyf i wedi bod yn dysgu ers pedair blynedd bellach. Dechreuais astudio ar fy mhen fy hun gartref, gan fy mod yn dod o dref fach a doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i wersi. Yna pan symudais i Nantes i wneud fy ngradd, llwyddais i gael dosbarthiadau nos ac astudiais gydag athro o Taiwan am dair blynedd.

Pan ddes i Gaerdydd, gwnes i rai gwersi Ieithoedd i Bawb a gwneud ffrindiau Tsieineaidd. Roedd yn ffordd wych i ddysgu Tsieinëeg oherwydd roeddwn i'n gallu treulio amser gyda nhw'n bwyta bwyd Tsieineaidd, siarad Mandarin a cheisio deall y negeseuon oedden nhw'n eu hanfon ataf!

Beth sbardunodd eich diddordeb yn Tsieina?

Rwy'n hoffi heriau newydd! Roeddwn i am ddysgu rhywbeth cwbl wahanol i fy niwylliant i, ac roeddwn i'n meddwl pe bawn i am deithio'r byd yna byddai Tsieinëeg yn dda gan fod cynifer o bobl yn siarad yr iaith. Rwyf i hefyd yn hoffi'r diwylliant a'r ffordd mae pobl Tsieina'n parchu pobl eraill, yn enwedig yr oedrannus.

Soniwch am y gystadleuaeth Pont Tsieinëeg.

Wel ar gyfer yr araith, roeddwn i am siarad am fy mhrofiadau yn Tsieina ond mewn ffordd ddoniol. Er enghraifft cododd sefyllfa gydag iaith arwyddo pan oedd fy ffrind Tsieineaidd yn arwyddo rhywbeth i fi ac roedd ei ystyr (yn yr iaith arwyddo rwy'n ei gwybod) yn gwbl wahanol. Roedd hi'n dweud 'diolch' ond i fi roedd yn dweud 'taniwr'!  Roeddwn i hefyd am siarad am wahaniaethau diwylliannol, fel dyw gofyn enw person Tsieineaidd pan fyddwch chi'n cwrdd â nhw ddim mor bwysig ag yn fy niwylliant i. Gallai person Tsieineaidd siarad gyda chi am oesoedd cyn holi eich enw!

Ar gyfer y perfformiad, adroddais rywbeth ynghyd â fideo bach am y coronafeirws, yna canais gân o'r enw ‘Ming Tian Ni Hao’ 明天你好 (‘Helo Yfory'). Rwy'n hoffi'r gân am ei bod yn ymwneud â bod yn ddewr i ymladd y dyfodol. Hefyd roedd rhaid i fi baratoi 160 o gwestiynau am ddiwylliant, er mai dim ond chwech holon nhw i fi.

Beth oedd y peth gorau am y gystadleuaeth?

Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio perfformiadau'r cyfranogwyr eraill - roedd y braf gweld yr holl fyfyrwyr eraill yn cymryd rhan. Hefyd roedd yn haws i'w wneud dros Zoom achos rydych chi gartref mewn lle cyfforddus. Rwy'n credu y gallai fod yn frawychus ei wneud o flaen llawer o bobl.

Gallwn wahodd fy ffrindiau i gyd i ddod hefyd gan ei fod ar-lein.

Soniwch am eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n bwriadu mynd i Tsieina i ddysgu Mathemateg neu Ffrangeg. Rwy'n astudio fy ngradd Meistr ar hyn o bryd ac yn dysgu sut i ddysgu Ffrangeg i bobl dramor. Es i Tsieina am ddau fis haf y llynedd, gan ymweld â ffrindiau a theithio o gwmpas, a phan fyddaf i'n gallu mynd yn ôl (ym mis Mawrth gobeithio), byddaf i'n dysgu yno."

Beth fyddai eich cyngor i bobl sy'n ystyried dysgu Tsieinëeg?

Mae Tsieinëeg yn iaith hyfryd achos does dim rhediadau fel yn Ffrangeg er enghraifft. Mae'n syml iawn. Fe ges i gyngor da gan fy nghyn athro a ddywedodd na ddylech chi ganolbwyntio gormod ar gael y tonau'n gwbl gywir. Rwy'n cytuno gyda hyn, gan ei fod yn gadael i chi fod yn fwy naturiol a bydd pobl yn deall beth ydych chi'n ei ddweud o'r cyd-destun. Dywedodd fy athro: "Os ydych chi'n canolbwyntio gormod ar dôn ac yn ceisio eu cofio ar gyfer pob gair, byddwch chi'n cymryd gormod o amser a bydd y bobl Tsieineaidd wedi mynd!"

Rhannu’r stori hon