Ewch i’r prif gynnwys

Fforwm digidol yn dod ag ysgolion ledled Cymru ynghyd

30 Tachwedd 2020

Wales China Schools Forum - Nov 20

Ym mis Tachwedd eleni daeth addysgwyr o bob rhan o Gymru ynghyd ar gyfer ail Fforwm Ysgolion Cymru Tsieina eleni.

Cynhaliwyd y fforwm yn ddigidol, ac roedd yn gyfle i’r cyfranogwyr drafod a rhannu eu profiadau o ddysgu Mandarin a diwylliant Tsieina ar-lein. Ymhlith y prif bynciau roedd datblygiad y cwricwlwm newydd i Gymru, rôl Dyfodol Byd-eang yn cefnogi ysgolion ar draws y wlad, a’r heriau mae ysgolion yn eu hwynebu wrth symud i ddysgu ac addysgu ar-lein.  Bu staff o Ddosbarthiadau Confucius mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn arddangos llwyddiannau wrth ennyn diddordeb eu myfyrwyr, ac roedd y cyflwyniadau amrywiol yn cynnwys:

Dywedodd Kirsty Williams AS, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru:

“Ar yr adeg hon mewn byd sy’n newid yn barhaus, mae’r gallu i gynnal cysylltiadau diwylliannol ac addysgol rhwng gwledydd yn gryfder pwysig.

Trwy’r cynllun dyfodol byd-eang, a thrwy gydweithio â chi, ein partneriaid Sefydliad Confucius, mae Cymru wedi darparu cyfoeth o gyfleoedd i blant ysgol ar draws y wlad ymgysylltu â Tsieinëeg Mandarin a dysgu am ddiwylliant a thraddodiadau Tsieina.  Mae Cymru’n wlad groesawgar, ac rydym ni wrth ein bodd ein bod ni’n genedl amlddiwylliannol. Rydym ni’n gwerthfawrogi’n fawr yr amrywiaeth mae myfyrwyr, academyddion, a’r gymuned Tsieineaidd yn ei gyfrannu i Gymru, ac rydym am i bobl deimlo croeso a gwerthfawrogiad.”

Mae Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina yn brosiect ar y cyd rhwng Sefydliadau Confucius Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Maen nhw’n cynnal dwy fforwm y flwyddyn, fel bod modd i addysgwyr ddysgu mwy am eu gwaith, yn ogystal â rhwydweithio a rhannu profiadau. Trefnwyd hon, ail fforwm y flwyddyn, gan Brifysgol Bangor, a chynhaliwyd y gyntaf wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.

Cynhelir Fforwm nesaf Ysgolion Cymru Tsieina ym mis Mawrth 2021, ac fe’i trefnir gan Sefydliad Confucius Caerdydd.

I gael gwybod am ddigwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru, cofrestrwch ar gyfer Cylchlythyr Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina bob chwarter trwy anfon e-bost i confucius@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon