Ewch i’r prif gynnwys

Buddsoddiad arwyddocaol yn chwaraeon y Brifysgol

18 Tachwedd 2020

An architect's drawings of plans for new sports facilities at Llanrumney

Bydd mynediad digynsail at gaeau glaswellt a phob tywydd, o'r radd flaenaf, ac o dan lifoleuadau, ar gael i fyfyrwyr a thimau chwaraeon Prifysgol Caerdydd o ganlyniad i bartneriaeth unigryw â Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chyngor Caerdydd.

Mae'r tri phartner wedi dod ynghyd i greu cytundeb lle bydd y Brifysgol yn trosglwyddo tir yn gyfnewid am fynediad at gaeau glaswellt ychwanegol. Mae hefyd yn cynnwys buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn tri chae pob tywydd pwrpasol o dan lifoleuadau ar safle Meysydd Chwaraeon y Brifysgol yn Llanrhymni.

Yn rhan o’r cytundeb, y safle hwn hefyd fydd cartref parhaol academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Dim ond Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd fydd yn cael defnyddio rhai rhannau o feysydd chwaraeon Llanrhymni er mwyn creu academi a chaeau hyfforddi newydd i’w defnyddio gan y clwb yn unig.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn cynnig mynediad at gaeau glaswellt pob tywydd i glybiau chwaraeon lleol.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio gyda C.P.D. Dinas Caerdydd a Chyngor Caerdydd i sicrhau buddsoddiad ariannol o bwys yn ein Meysydd Chwaraeon yn Llanrhymni.

“Ar ôl ei gwblhau, bydd yn creu Canolfan Ragoriaeth a bydd ein myfyrwyr yn elwa ar allu cael mynediad heb ei ail at gyfleusterau chwaraeon awyr agored o’r radd flaenaf o dan lifoleuadau. Yr un mor bwysig, mae'n golygu bod y gymuned leol yn elwa oherwydd bydd timau lleol yn cael mynediad at ein cyfleusterau newydd, a’r safle hwn fydd cartref parhaol academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

“O ystyried y sefyllfa ariannol hynod heriol, mae hon yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw partneriaid o Gaerdydd ynghyd i weithio’n arloesol er eu budd unigol eu hunain ac er budd cymuned chwaraeon ehangach Caerdydd.”

Yn ei gyfanrwydd, bydd y buddsoddiad yn golygu bydd y Brifysgol yn cael:

  • Tri chae newydd dan lifoleuadau y gall myfyrwyr chwarae arnynt yn ystod pob tywydd, a chwarae gemau, un ar ôl y llall, trwy'r dydd, 7 diwrnod yr wythnos a 365 diwrnod y flwyddyn.
  • Wyth erw o dir yn cael ei osod fel caeau glaswellt ar gyfer chwaraeon myfyrwyr a defnydd cymunedol sy'n cynhyrchu incwm.

Ychwanegodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr: “Rydyn ni wedi cydnabod  ers cryn amser bod angen uwchraddio ein cyfleusterau chwaraeon awyr agored.

“Dyna pam rwyf wrth fy modd ein bod wedi sicrhau’r buddsoddiad hwn yn ein cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn Llanrhymni, oherwydd byddant yn cael eu trawsnewid yn rhai o’r caeau chwaraeon gorau yn y DU.

“Mae hefyd yn cynnig hwb mawr ei angen i brofiad chwaraeon ein myfyrwyr. Mae'n golygu y bydd mwy o fyfyrwyr yn gallu elwa ar chwaraeon. Gwyddom y gallai hyn helpu i wella a chynnal iechyd meddwl, hybu cyflawniad academaidd, a gwella eu rhagolygon wrth chwilio am swyddi.

“Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd ein caeau pob tywydd ar gael ar gyfer chwaraeon myfyrwyr awyr agored, gan bron ddyblu faint o le sydd ar gael ar y safle ar hyn o bryd.”

Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, gobeithir y bydd y gwaith ar y safle yn dechrau ddiwedd 2020 a disgwylir i'r caeau pob tywydd fod yn barod i'n myfyrwyr a chymuned ehangach Caerdydd erbyn diwedd 2021.

Mae'r cam cychwynnol hwn yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol i fuddsoddi ymhellach mewn cyfleusterau chwaraeon yn safle Llanrhymni.

Yn amodol ar sicrhau cyllid ychwanegol, y gobaith yw y bydd y ddau gam nesaf yn datblygu cae pob tywydd ychwanegol ar gyfer hoci yn ogystal ag ailddatblygu’r Pafiliwn a chyfleusterau newid yn llwyr.

Rhannu’r stori hon