Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Sgriptio Syr Peter Ustinov

12 Tachwedd 2020

Hannah Westall
Hannah Westall. Llun H Webb

Mae cyn-fyfyriwr Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol wedi ennill Gwobr Sgriptio Teledu Syr Peter Ustinov 2020 a ddyfernir gan yr Emmys Rhyngwladol.

Dyfarnwyd y wobr i Hannah Westall (BA Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol 2016) am ei sgript, Mind The Gap.

Cynhelir y gystadleuaeth bob blwyddyn gan Sefydliad Academi Ryngwladol y Celfyddydau a'r Gwyddorau Teledu, ac mae'n cynnig cydnabyddiaeth i awduron newydd dan 30 oed. Mae'r enillydd yn derbyn $2,500.

Dywed Hannah: "Mae Mind the Gap yn ymwneud ag adladd canfod cwpwl ifanc, rhynghiliol yn farw yn ne Llundain. Mae'n edrych ar sut caiff cymunedau'r ddau arddegwr eu dal mewn rhyfel o feio a diffyg ymddiriedaeth wrth iddyn nhw geisio canfod beth ddigwyddodd.

"Roeddwn i am edrych ar y gagendor o ran dealltwriaeth sy'n bodoli rhwng gwahanol gymunedau yn y DU. Mae'r ddau brif gymeriad yn fenywaidd, gan ei bod yn bwysig i mi greu prif gymeriadau benywaidd diddorol a chymhleth, ac archwilio'r cysylltiadau rhwng menywod.

"Gyda fy ysgrifennu rwy'n gobeithio creu straeon a chymeriadau sy'n gwneud i bobl deimlo'n llai unig. Rwyf i am helpu i adrodd naratifau amrywiol, heriol sy'n ymdrin â phynciau mae gen i brofiad ohonyn nhw; pynciau fel cynnig darlun gonest o broblemau iechyd meddwl a phwysau benywdod a ffeministiaeth."

Dechreuodd Hannah ysgrifennu yn 2015 pan ddaeth yn Ddirprwy Bennaeth Comedi yng Ngorsaf Deledu Prifysgol Caerdydd, CUTV.

Ar ôl graddio, aeth Hannah ymlaen i Goleg Cyfathrebu Llundain i gwblhau gradd meistr mewn ysgrifennu i'r sgrin.

Wrth sôn am ei phrofiad ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd: "Yn ystod fy nghyfnod yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, astudiais i nifer o fodiwlau teledu, dan Dr Ross Garner, oedd yn gymorth mawr i ddatblygu fy nealltwriaeth o'r diwydiant teledu yn y DU, yn ogystal â fy hyder. Dyna pryd y dechreuais i ystyried ysgrifennu i'r sgrin fel gyrfa.

"Yn fy nhrydedd flwyddyn, ein prosiect terfynol oedd ysgrifennu triniaeth ar gyfer cyfres deledu. Cyflwynais un ar gyfer drama gomedi o'r enw ‘Queens of Broken’, sgript a aeth ymlaen i sicrhau'r lle ar fy ngradd meistr."

Dywedodd Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yr Ysgol Dr John Jewell am wobr Hannah: "Mae gwobr Syr Peter Ustinov yn gydnabyddiaeth ragorol o dalent ysgrifennu ifanc, ac rydym ni wrth ein bodd fod Hannah wedi cael ei chydnabod gan yr Emmys Rhyngwladol.

"Yma yn yr ysgol ein nod yw sicrhau bod gan ein myfyrwyr yr wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen i lwyddo y tu hwnt i'r brifysgol, ac rydym ni bob amser yn falch i weld ein myfyrwyr yn gwneud defnydd da o hyn."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.