Ewch i’r prif gynnwys

Addysgu wyneb yn wyneb yn newid i ddysgu ar-lein ar gyfer ein cyrsiau yn y gwanwyn

9 Tachwedd 2020

Online Learning
Studying online

Ar ôl adolygu ein cynlluniau ar gyfer addysgu gyda chyfyngiadau pellter cymdeithasol, rydym wedi penderfynu y bydd yr holl addysgu ar-lein o fis Ionawr 2021.

Rydym yn cydnabod bod llawer ohonoch wedi bod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r dosbarth, ond o dan yr amgylchiadau, ry'n ni'n credu mai parhau i addysgu ar-lein yw'r opsiwn gorau.

Er y bydd gennych fynediad at wybodaeth sy'n gysylltiedig â chwrs ac adnoddau dysgu ar unrhyw adeg, byddwn yn parhau i ddefnyddio sesiynau addysgu wedi’u trefnu i chi ryngweithio â'ch tiwtor, a'ch cyd-fyfyrwyr, mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rhithwir.

Rydyn ni'n gobeithio ailgyflwyno addysgu wyneb yn wyneb, pan fydd hi'n ymarferol gwneud hynny.  Byddwn yn adolygu'r sefyllfa eto, ar gyfer cyrsiau sydd â dyddiad dechrau o fis Ebrill a thu hwnt, tuag at ddiwedd tymor y gwanwyn (Mawrth 2021), ac yn diweddaru ein gwefan yn unol â hynny.

Hoffem ddiolch i bob myfyriwr sydd wedi rhannu profiadau positif o astudio gyda ni dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i'r rhaglen fywiog a chyffrous o gyrsiau rydym wedi'u cynllunio o fis Ionawr ymlaen.

Rhannu’r stori hon