Ewch i’r prif gynnwys

Prif wobr i fyfyriwr graddedig deintyddiaeth

6 Tachwedd 2020

Emyr Meek, myfyriwr graddedig diweddar mewn Deintyddiaeth (BDS) o Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yw enillydd Gwobr agoriadol Celf a Gwyddoniaeth mewn Deintyddiaeth o'r College and Dental Society of Wales | Y Gymdeithas Ddeintyddol.

I gystadlu yn y wobr, roedd yn rhaid i fyfyrwyr gyflwyno blog fideo neu boster yn cyfeirio at eu hymchwiliad, adolygiad llenyddiaeth neu ymchwil sylfaenol i bwnc sy'n berthnasol i wasanaethau deintyddol teuluol sydd wedi cael dylanwad ar wella gofal iechyd y geg i bawb. Mae’r wobr ar gyfer myfyrwyr deintyddol yng Nghymru, ac roedd cyflwyniad Emyr yn boster am ddiwygio contractau yng Nghymru.

Mae'r poster yn esbonio'r newidiadau a wnaed i'r contract deintyddol a'r Rhaglen Diwygio’r Contract Deintyddol. Mae'n mynd ymlaen i archwilio datblygiadau diweddar, yn enwedig yr Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN), ac yn trafod yr effaith ar iechyd y geg.  Mewn cyflwyniad ar-lein wedi'i recordio a wnaed yn Gymraeg ac yn Saesneg, esboniodd Emyr y wybodaeth fanwl a gynhwysir ar y poster.

Bydd Emyr yn cael ei wobr yn y Diwrnod Astudio Blynyddol 2021 Dental Society of Wales – Y Gymdeithas Ddeintyddol, sydd wedi’i ohirio.

Gallwch wylio recordiad o'i gyflwyniad yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Rhannu’r stori hon