Ewch i’r prif gynnwys

Ymateb cyllidol Llywodraeth Cymru i Covid-19 i gynyddu i dros £5 biliwn eleni

3 Tachwedd 2020

Money and graph

Mae gan Lywodraeth Cymru dros £5 biliwn i’w ddyrannu i’w hymateb cyllidol i Covid-19 yn 2020-21, yn ôl papur briffio newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Ond mae diffyg sicrwydd cyllidol a phwerau benthyg yn rhwystro cynllunio cefnogaeth ar gyfer busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad, ‘Funding the firebreak and beyond’, gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru, yn datgelu costau’r cymorth ariannol i fusnesau a mesurau iechyd cyhoeddus, ac yn asesu’r ansicrwydd cyllidol enfawr sy’n wynebu Llywodraeth Cymru.

Mae’r £5 biliwn o’r cyllid sydd ar gael yn cynnwys £4.4 biliwn yn deillio o benderfyniadau gwariant Llywodraeth y DG yn Lloegr (trwy’r fformiwla Barnett) yn ogystal â chyllid wedi’i ail-flaenoriaethu o du fewn i gyllideb bresennol Cymru.

Ar ôl y gefnogaeth i fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol sydd eisoes wedi’i ddyrannu, roedd Cyllideb Atodol diweddar Llywodraeth Cymru yn cynnwys £1.2 biliwn o gyllid heb ei ddyrannu. Bydd yr arian yma yn caniatáu Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gefnogaeth economaidd dros y misoedd nesaf.

Fodd bynnag, mae’r gwariant heb ei ddyrannu hefyd yn adlewyrchu ansicrwydd enfawr ynghylch cynllunio cyllidebol eleni. Mae’r ansicrwydd hwn yn uwch oherwydd diffyg pwerau benthyg, trefniadau cyllido anhyblyg, a diffyg eglurder ar gostau cefnogaeth Llywodraeth y DG i fusnesau yn Lloegr.

Dywedodd Guto Ifan, ymchwilydd Dadansoddi Cyllid Cymru:

“Mae Llywodraeth y DG wedi gwneud ymrwymiadau penagored i fusnesau yn Lloegr, sy’n ddibynnol ar gyfyngiadau clo yn y dyfodol. Mae hyn yn gwneud y cyllid ychwanegol y bydd yn dod i Gymru yn y pen draw yn hynod ansicr.

“Heb fwy o hyblygrwydd cyllidol gan y Trysorlys, na phwerau benthyca cyfredol ei hun, efallai na fydd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud ymrwymiadau tebyg i fusnesau yng Nghymru.”

Nid yw’r adroddiad yn canfod unrhyw dystiolaeth bod mesurau iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig wedi arwain at lefelau cymharol uwch o wariant Covid-19 gan Lywodraeth y DG yng Nghymru, a bydd cyfnod clo cynharach a byrrach Llywodraeth Cymru yn debygol o fod yn gost-effeithiol.

Ychwanegodd Guto Ifan:

“Er bydd y cyfnod clo yma wedi cynyddu’r galw ar gynllun arbed swyddi Llywodraeth y DG, mae’n debygol o fod wedi lleihau’r galw am gyfyngiadau mwy costus a hirdymor yn y dyfodol, fel gwelwn ni yn Lloegr nawr.

“Dros y misoedd nesaf, dylai polisïau cymorth economaidd Llywodraeth y DG ystyried ac ymateb i benderfyniadau’r llywodraethau datganoledig, ac nid yn unig y cyfyngiadau sy’n cael eu cyflwyno yn Lloegr.”

Rhannu’r stori hon