Ewch i’r prif gynnwys

This is Engineering Day

27 Hydref 2020

This is engineering

Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod This is Engineering ar 4 Tachwedd 2020: menter genedlaethol i ddod â pheirianneg yn fyw i bobl ifanc a rhoi cyfle i fwy o bobl ddilyn gyrfa sy'n foddhaus, yn ffurfio'r dyfodol ac y mae galw mawr amdani.

Mae peirianneg a thechnoleg yn ffurfio'r byd o'n cwmpas ac yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â rhai o heriau byd-eang mwyaf ein hoes, ond eto i gyd mae gan y DU brinder pobl ifanc yn ymgeisio am gyrsiau peirianneg a swyddi peirianneg.

Yn ôl amcangyfrif y ffigurau diweddaraf sydd ar gael gan EngineeringUK, gallai fod prinder o hyd at 59,000 o raddedigion peirianneg a thechnegwyr yn y DU bob blwyddyn, tra bod 12% yn unig o'r gweithle yn fenywaidd a dim ond 9% yn dod o gefndiroedd BAME.

Un o'r prif rwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag dilyn gyrfa mewn peirianneg yw canfyddiadau diwylliannol dwfn fod y proffesiwn yn fecanyddol ac yn rhy dechnegol.

Yn 2019, lansiodd Yr Academi Beirianneg Frenhinol ynghyd ag EngineeringUK y Diwrnod This is Engineering cyntaf, menter genedlaethol i herio'r camganfyddiadau hyn.

Bydd Diwrnod This is Engineering yn dychwelyd ar 4 Tachwedd 2020. Y thema yw #BeTheDifference: dathliad o beirianneg sy'n ffurfio ein byd er gwell, boed hynny drwy wneud ein bywydau bob dydd yn haws neu fynd i’r afael â heriau byd-eang.

Nodau'r diwrnod yw:

  • Dangos i bobl ifanc beth yw peirianwyr a pheirianneg mewn gwirionedd
  • Dathlu eu heffaith ar y byd
  • Newid canfyddiad y cyhoedd o beirianneg a pheirianwyr

Rydym ni am ddangos i bobl ifanc fod peirianneg yn ddisgyblaeth i bawb sy'n gweithredu ar flaen y gad drwy arddangos rhywfaint o'n hymchwil mewn trafnidiaeth ac ynni cynaliadwy, deallusrwydd artiffisial a roboteg, technoleg feddygol a deallusrwydd trefol.

Cadwch olwg ar ein cyfrifon Facebook a Twitter ar 4 Tachwedd 2020 am y newyddion diweddaraf.

Dangoswch eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i ddathlu peirianwyr a sut maen nhw'n gwneud gwahaniaeth i'n gwaith ac yn y byd drwy rannu eich llwyddiannau eich hun yn defnyddio #BeTheDifference a thagio @ThisisEng a @EngineeringCU.

Bydd yr Academi Beirianneg Frenhinol yn cynnal sesiynau holi ac ateb gyda pheirianwyr, lle bydd dau beiriannydd yn ateb cwestiynau'r myfyrwyr yn fyw. Dewch yn rhan o'r ymgyrch drwy ymuno a rhannu manylion y digwyddiadau.

Rhannu’r stori hon