Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr ryngwladol ar gyfer myfyriwr ôl-raddedig

22 Hydref 2020

Dyfarnwyd gwobr agoriadol yn anrhydeddu eicon byd-eang mewn astudiaethau Affricanaidd i fyfyriwr ôl-raddedig

Mae myfyriwr PhD Fayssal Bensalah wedi cipio Gwobr Toyin Falola gyntaf erioed am ysgrifennu Affricanaidd a gyhoeddwyd yng Ngŵyl fawreddog y Celfyddydau a Llyfrau Aké yn Nigeria.

Mae ei stori yn un o wyth ar y rhestr fer o bron i 800 o gynigion ac mae'n cipio'r wobr agoriadol a enwir er anrhydedd i'r hanesydd ac eicon byd-eang Astudiaethau Affricanaidd, yr Athro Toyin Falola. Ymhlith yr wyth ar y rhestr fer roedd awduron o Algeria, Ghana, Nigeria a De Affrica.

Mae Gwobr Toyin Falola yn dathlu straeon byrion sy'n dychmygu'n greadigol hanes lle, pobl, amser, neu ddigwyddiad ar gyfandir Affrica a ysgrifennwyd gan genhedlaeth iau Affrica rhwng 18 a 35 oed.

Mae'r stori fer fuddugol The Last Shot of Ahmed Bey's Cannon yn archwilio dychweliad academydd canol oed i Algeria ar ôl blynyddoedd lawer yn byw ac yn gweithio yn Ffrainc, gan geisio mynd ar drywydd ffantasi ieuenctid yn erbyn realiti cartref.

Mae myfyriwr rhyngwladol Fayssal o Algeria yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a'r Ysgol Ieithoedd Modern, dan oruchwyliaeth yr awdur a'r darlithydd Ysgrifennu Creadigol Dr Meredith Miller a Darlithydd mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Dr Abdel-Wahab Khalifa.

Wrth ysgrifennu yn ei drydedd iaith waith ochr yn ochr ag Arabeg a Ffrangeg, dywedodd Fayssal:

“Dwi wastad wedi dyheu am fod ymhlith yr ysgrifenwyr Algeriaidd cyntaf sy’n ysgrifennu yn Saesneg, i arloesi llanw llenyddol newydd o ffuglen Algeriaidd Saesneg, ac mae’r wobr hon wedi fy nghymell i fynd ar drywydd y dyhead hwn ymhellach a pharhau i ysgrifennu yn ddibaid.”

Mae Fayssal, enillydd y wobr, yn derbyn $1,000 ynghyd â thaith wedi'i hariannu'n llawn i fynd i Ŵyl Llenyddiaeth Affrica ac Alltudion Affrica BIGSAS yn Bayreuth, yr Almaen.

Rhannu’r stori hon