Ewch i’r prif gynnwys

Hwb ariannol o bwys i gefnogi arweinwyr ymchwil y dyfodol

16 Hydref 2020

Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd
Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o gonsortiwm pwysig fydd yn llywio arweinwyr ymchwil y genhedlaeth nesaf. Bydd Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol (FLF) yn cynnig hyfforddiant a datblygiad i 210 o Gymrodyr newydd, a 40 o ymchwilwyr ac arloeswyr ar ddechrau eu gyrfa.

Mae’r Rhwydwaith, a arweinir gan Brifysgol Caeredin, yn cynnwys saith sefydliad: Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Leeds, Coleg Prifysgol Llundain, Ysgol yr Uwchefrydiau, a Phrifysgol Queens Belfast.

Mae prifysgolion partner yn cael eu trefnu’n bedair canolfan ranbarthol ac yn cysylltu Cymrodyr ag arweinwyr lleol, cenedlaethol a byd-eang ym meysydd ymchwil ac arloesedd.

Dyfarnwyd y contract £2.8 miliwn gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) i’r Rhwydwaith yn dilyn proses dendro gystadleuol. Ariennir y rhaglen am dair blynedd.  Cafodd y Cymrodoriaethau eu creu yn 2018 i sefydlu gyrfaoedd arweinwyr ymchwil ac arloesedd o’r radd flaenaf ar draws meysydd busnes ac academaidd y DU.

Meddai’r Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Rwyf wrth fy modd fod Prifysgol Caerdydd yn rhan o Rwydwaith Datblygu newydd ac arloesol FLF. Mae’n ein galluogi i chwarae ein rhan wrth gefnogi’r Cymrodyr i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u harweinyddiaeth. Drwy weithio ar draws y DU, a dysgu oddi wrth y cydweithwyr hynod brofiadol sy’n cymryd rhan yn ein consortiwm unigryw, gallwn hefyd rannu arferion gorau ym meysydd arweinyddiaeth ac ymchwil ar draws y sefydliadau amrywiol sy’n gartref i’r ymchwilwyr rhagorol hyn”.

Bydd y Rhwydwaith yn canolbwyntio ar bum maes: menter a hunan-arweinyddiaeth; arwain timau a chydweithio; trawsnewid diwylliannau ymchwil; cyfrannu at gymdeithas yn y DU; a dinasyddiaeth fyd-eang.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain ar drawsnewid diwylliannau ymchwil, ac yn cefnogi mentora ac adolygu gan gymheiriaid. Ni hefyd fydd y ganolfan ranbarthol ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr.

Meddai’r Athro Claire Gorrara, Deon Diwylliant ac Amgylchedd Ymchwil: “Yng Nghaerdydd, rydym wedi ymrwymo’n llawn i feithrin diwylliant ymchwil cynhwysol, creadigol a gonest. Bydd y cyfle hwn i weithio gyda Sefydliad Ymchwil y DU a chonsortiwm o brifysgolion blaenllaw yn ein galluogi i wella ein cefnogaeth ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yn y DU a’r tu hwnt.”

Disgrifiodd Sefydliad Ymchwil y DU y consortiwm fel corff sy’n “arwain y byd” gydag arbenigedd mewn meithrin partneriaethau a chreu cysylltiadau gyda rhwydweithiau fydd yn helpu’r Cymrodyr i ffynnu.

Cynigir amrediad o gyfleoedd i gymrodyr gan gynnwys gweithdai a digwyddiadau strwythuredig, hyfforddiant, a rhwydweithio â diwydiant, a mentora. Byddant hefyd yn cael hyfforddiant arwain ac adolygu gan gymheiriaid, cymorth ymgysylltu, a digwyddiadau ymchwil rhyngwladol.

Ar ben hynny, mae ffrwd ariannu wedi’i chreu i gychwyn a datblygu syniadau’r grwpiau ar y cyd. Bydd y rhain yn datblygu ymhellach wrth i Gymrodyr ddechrau gweithio a dysgu gyda’i gilydd.

Rhannu’r stori hon