Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin heddwch yng Ngogledd Iwerddon: Safbwyntiau Damcaniaethol ac Ymarferol

14 Hydref 2020

EU flag

Nod trafodaeth banel bwysig a drefnir gan Dr Giada Lagana, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, fydd dangos bod y berthynas rhwng Gogledd Iwerddon a'r UE wedi bod yn llawer mwy arwyddocaol yn y broses heddwch nag yr awgrymwyd erioed.

Bydd y digwyddiad, am 4pm ddydd Llun 9 Tachwedd, yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol wythnos o hyd yr ESRC, a chaiff ei drefnu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Queens Belfast.

Er gwaetha'r ffaith i Ogledd Iwerddon fod bron yn gwbl absennol o'r dadleuon cyn refferendwm Brexit ym mis Mehefin 2016, symudodd i ganol y llwyfan yn y trafodaethau ar ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o'r UE.

Pryder penodol oedd a fyddai rhoi Brexit ar waith yn bygwth y broses heddwch, ac, yn gysylltiedig â hyn, natur agored ffin Iwerddon, a fyddai'n fuan yn dod yn ffin rhwng y DG a'r UE. Serch hynny, ymylol yw'r wybodaeth am gyfraniadau economaidd a gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd (UE) i broses heddwch Gogledd Iwerddon o hyd.

Drwy ddod ag academyddion ac ymarferwyr heddwch at ei gilydd, bydd y drafodaeth banel yn taflu goleuni ar y cysylltiad rhwng damcaniaethau, polisïau ac arferion yr UE yn meithrin heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r cysylltiad hwn yn bwysig, oherwydd mae diffyg strategaeth benodol o feithrin heddwch yn dal i fodoli yn yr UE.

Mae'r siaradwyr yn cynnwys:

  • David Bolton, ymchwilydd trawma, awdur, ymarferydd a chyfarwyddwr sylfaen Canolfan Gogledd Iwerddon ar gyfer Trawma a Thrawsnewid.
  • Patrick Colgan, cyn Brif Weithredwr Rhaglen Rhaglenni Arbennig yr UE a Chynrychiolydd Arbennig Llywodraeth Iwerddon i Weinyddiaeth Colombia ar gyfer Ôl-wrthdaro.
  • Yr Athro Cathal McCall, arbenigwr ar gydweithio trawsffiniol yr UE a thrawsnewid gwrthdaro; Prifysgol Queen’s Belfast.
  • Dr Laurence McKeown, cyn wirfoddolwr IRA a chyfarwyddwr prosiect dan PEACE III a PEACE IV.
  • Dr Mary C. Murphy, deiliad Cadair Jean Monnet mewn Integreiddio Ewropeaidd a darlithydd gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cork.
  • Avila Kilmurray, Swyddog Datblygu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Gogledd Iwerddon a chyfarwyddwr Sefydliad Cymunedol Gogledd Iwerddon fu'n goruchwylio cyflwyno cyllid PEACE i gyn-garcharorion.

Mae'r digwyddiad ar agor i bawb a gellir cofrestru yma.

Rhannu’r stori hon