Ewch i’r prif gynnwys

Dr Joanne Patterson yn siarad mewn digwyddiad UE allweddol yn rhannu Datrysiadau Arloesol er mwyn addasu i fod yn Ddinas Glyfar

12 Hydref 2020

Swansea retrofit houses
Swansea retrofit houses

Cafodd Uwch-gymrawd Ymchwil, Dr Joanne Patterson, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru ei gwahodd i fod yn rhan o Ddinasoedd Gwyrdd gan y Bartneriaeth Gyd-ddylunio, sydd wedi sicrhau Sesiwn yn Wythnos Rhanbarthau a Dinasoedd Ewrop 2020 yn rhan o'u thema 'Ewrop Werdd'.

Bydd 18ed Wythnos Rhanbarthau a Dinasoedd Ewrop rhwng 5-22 Hydref, gyda phob wythnos yn canolbwyntio ar thema benodol: Grymuso Dinasyddion, Cydlyniad a Chydweithio ac Ewrop Werdd.

Ar 21 Hydref, bydd Dr Patterson yn trafod mewnwelediadau o ymchwil y tîm Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel gydag ystod o awdurdodau lleol a sefydliadau tai cymdeithasol ledled Cymru i weithredu prosiectau ôl-ffitio system tŷ cyfan, system ynni cyfan. Mae'r gwaith wedi cynnwys cydweithio agos gyda phreswylwyr, staff awdurdod lleol a thai cymdeithasol a chadwyni cyflenwi i gyflawni tai carbon isel ac ynni isel o safon i'r dyfodol, wrth newid arferion ar gyfer gwelliannau i'r dyfodol i dai presennol a thai newydd.

Mae rhaglen trydedd wythnos Wythnos Rhanbarthau'r UE yn benodol ar gyfer y thema Ewrop Werdd, gydag amrywiaeth o sesiynau gwaith ar bynciau megis lleoli'r fargen werdd, effeithlonrwydd ynni a bioamrywiaeth.

Mae'r rhaglen lawn ar gael ar-lein nawr, lle gallwch hefyd gofrestru i ddod i'r sesiynau.

I gael gwybod mwy am y prosiect ôl-ffitio carbon isel, ewch i dudalennau newyddion Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Rhannu’r stori hon