Ewch i’r prif gynnwys

Cŵn cynhanesyddol: Gwaith am gŵn cynhanesyddol oedd yn gwarchod cartrefi yn sail i wobr myfyriwr

5 Hydref 2020

Buddugoliaeth ranbarthol i fyfyriwr Archaeoleg ar raglen wobrau fyd-eang i israddedigion

Enillodd Jessica Peto, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, wobr ranbarthol (Ewrop) yng Ngwobrau Byd-eang i Israddedigion mewn Astudiaethau Clasurol ac Archaeoleg, un o 18 categori y wobr ryngwladol.

A hithau’n astudio MSc mewn Gwyddoniaeth Archaeolegol bellach, derbyniodd Jess y wobr am ei gwaith astudio annibynnol yn ystod ei gradd israddedig BSc Archaeoleg.

Yn The Dogs of Cladh Hallan: An Exploration of Beliefs, edrychodd Jess ar swyddogaeth cŵn ym Mhrydain yr Oesoedd Efydd ac Haearn a’r arwyddocâd defodol posib iddyn nhw, a’r modd y cawsant eu claddu, drwy ganolbwyntio ar y cŵn a gafodd eu darganfod ar y safle cynhanesyddol hwn ar Ynysoedd Heledd Allanol.  Cafodd bron i 400 o esgyrn cŵn eu darganfod ar y safle, gan gynnwys dau a oedd wedi’u claddu bob ochr i aelwyd tŷ crwn. Roedd y pâr a oedd yr un maint ag adargi, rhwng 52cm a 60cm o daldra - wedi'u gosod mewn tyllau, fel pe baent yn gwarchod y tân canolog, gyda'u coesau wedi'u plygu oddi tanynt.

Mae ei hastudiaeth israddedig yn cyfrannu at yr ymchwil sy’n cwmpasu hanes pobl ar Ynysoedd Heledd, ac at Ymgyrch Ymchwil Amgylcheddol ac Archeolegol Ynysoedd Heledd Sheffield, sef prosiect arobryn SEARCH.

Mae'r astudiaeth wedi dod â deg prifysgol ledled y byd ynghyd dros gyfnod o 15 mlynedd i arolygu dwsin o ynysoedd, gan gynnwys ymchwil o dan yr Athrawon Niall Sharples a Jacqui Mulville, dan arweiniad yr Athro Keith Branigan yn Sheffield. Mae tua 60 o academyddion ac 800 o fyfyrwyr wedi datgelu 2,000 o leoliadau archeolegol a oedd gynt yn anhysbys, gan arwain at nifer o astudiaethau doethurol sy’n cynnwys rhai gan gynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd; Dr Julia Best, Dr Jennifer Jones a Dr Matt Law a’r myfyrwyr presennol Sally Evan a Hanna Pageau.

Mae'r Gwobrau Byd-eang i Israddedigion, a sefydlwyd yn 2012, yn cydnabod y gwaith israddedig gorau, gan ei rannu â chynulleidfa fyd-eang drwy ei Uwchgynhadledd Rithwir,a fydd yn digwydd dros dri diwrnod ar gyfer 2020 (16-18 Tachwedd).

Rhannu’r stori hon